|

Beth os oes gen i anabledd?

disabled waymark English

Pobl gyda’r Fogfa neu Asthma

Mae gwella ffitrwydd drwyddo draw yn helpu i frwydro’n erbyn clefyd y fogfa, drwy gynyddu cynhwysedd yr ysgyfaint a helpu i ymlacio’n gorfforol. Ymgynghorwch â’ch meddyg cyn dechrau ar unrhyw raglen newydd o ymarfer corfforol

  • Defnyddiwch eich mewnanadlydd o leiaf 30 munud cyn cychwyn allan ar eich siwrnai, a gwnewch yn sicr eich bod yn ei gludo gyda chi ar y daith.
  • Ymgynheswch eich hun yn ddi-ffael bob tro cyn dechrau, gyda deng munud o ymarfer corfforol ysgafn, er mwyn graddol adeiladu graddfa a chryfder eich anadlu yn araf bach.
  • Anadlwch drwy eich trwyn, nid dim ond drwy eich ceg: mae hynny yn helpu i gynhesu’r aer cyn iddo fynd i mewn i’ch ysgyfaint.
  • Ceisiwch osgoi llygredd yn yr awyr, drwy ddewis trywydd-lwybrau sydd oddi ar ffyrdd prysur, yn arbennig felly yn ystod y brig oriau prysur.
  • Byddwch bwyllog a hamddenol ar ddyddiau oer a sych. Pan fo’r awyr yn oer, ceisiwch anadlu drwy sgarff gwlanog neu sidan.
  • National Asthma Campaign.

Pobl Ddall a Rhannol Ddall (h.y. â golwg ddiffygiol ganddynt)

blind walker

Gall llwybrau ag iddynt arwyneb anwastad neu ag arnynt rwystradau o wahanol fathau, brofi’n anodd i’w tramwyo. Felly dewiswch lwybrau hawdd, esmwyth a gwastad; a cheisiwch osgoi llwybrau ag iddynt ormod o lethrau’n goleddu ar i waered os ydych chi’n ei chael hi’n fwy o drafferth i gerdded ar i lawr nag ar i fyny. Y ffordd rwyddaf i oresgyn problemau o’r fath ydyw drwy fynd am dro gyda chymar neu gyfaill sy’n gweld yn ddidrafferth.

Mae amryw o sefydliadau, gan gynnwys rhai Grwpiau Lleol y Cerddwyr, yn trefnu crwydradau tywysedig ar gyfer y deillion a phobl sy’n rhannol ddall. Hefyd, gall Institiwt Frenhinol Cenedlaethol y Deillion (yr RNIB), llyfrgelloedd lleol, canolfannau gwybodaeth, ynghyd â grwpiau lleol y deillion, gynorthwyo gyda darparu gwybodaeth a chysylltiadau; ac o bosib y gallant eich gosod chi mewn cysylltiad â phobl sy’n barod i dywys grwpiau bychain neu unigolion ar hyntoedd cerdded.

At hynny, mae’r RNIB hefyd yn cynnig rhai gwyliau cerdded sydd wedi eu trefnu’n arbennig gogyfer pobl ddall. Mae gennym fersiwn clywedol o’n cylchgrawn aelodaeth ar gael ar dâp casét, yn ogystal â detholiad o ddeunydd clywedol ar ein gwefan.

Pobl Fyddar a Rhannol Fyddar (h.y. pobl drwm eu clyw)

Fel arfer, gall pobl ddall neu bobl drwm eu clyw fwynhau’r un math o grwydradau ac antur-gerdded â phobl sy’n clywed. Cymerwch ofal ar groesfannau ffyrdd a chroesfannau rheilffyrdd lle bo’r gwelededd yn wael. Os ydych yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu gyda phobl sy’n clywed - er mwyn gofyn y ffordd - yna dewiswch naill ai lwybrau sydd wedi eu cyfeirnodi’n dda gydag arwyddbyst yr holl ffordd, neu lwybrau sydd ar drywyddau syml a rhwydd i’w dilyn; neu fel arall wrth gwrs, sicrhewch fod eich medrau ‘mordwyo’ (sef eich sgiliau ‘llwybr-lywio’) yn ddigon cymwys i’ch siwrnai arfaethedig.

Pobl gyda’r Clefyd Melys neu’r Diabetes

Mae gweithgaredd corfforol cymedrol yn fuddiol i bobl sydd â’r clefyd melys (clefyd y siwgr neu’r diabetes), gan fod ymarfer rhesymol a synhwyrol yn helpu i gadw rheolaeth ar lefelau siwgr y gwaed ynghyd â rheoli pwysau corfforol, yn ogystal â helpu hefyd i oresgyn blinder. Weithiau gellir rheoli Math 2 o’r diabetes (sef yr un sy’n ddi-ddibynnol ar inswlin) drwy gyfrwng diet ac ymarfer corfforol yn unig. Ymgynghorwch â’ch meddyg neu’ch tîm diabetes cyn cychwyn ar raglen newydd o ymarfer corfforol.

  • Cynlluniwch eich cymeriant o siwgr a phigiadau inswlin yn ofalus o gwmpas eich troed-daith. Gan fod cerdded yn defnyddio eich stôr o glwcos, mae’n bosib y canfyddwch eich bod angen llai o inswlin.
  • Osgowch chwistrellu pigiad yn eich coesau yn union cyn cychwyn ar siwrnai gerdded: oherwydd gall ymarfer cyhyrau eich coesau wrth gerdded achosi i’r inswlin gael ei amsugno i’ch corff yn rhy fuan.
  • Gwiriwch (tsieciwch) lefel siwgr eich gwaed bymtheng munud cyn cychwyn cerdded, ac wedyn un awr ar ôl i chi ddod i ben eich siwrnai. Os oes gwahaniaeth sylweddol rhwng y ddau fesur, yna ymgynghorwch â’ch meddyg cyn mentro ar daith gerdded hirach na hynny. Os sylwch fod lefel siwgr eich gwaed yn anarferol o uchel cyn i chi fwriadu cychwyn am dro, peidiwch â gwneud unrhyw fath o ymarfer corfforol hyd nes bydd y mesur wedi dychwelyd i lefel arferol a normal.
  • Cariwch glwcos gyda chi bob amser.
  • Os ydych chi’n tueddu i ddioddef yn ddirybudd oddi wrth gyflwr ‘hypo’ (‘diffyg’), gwnewch yn sicr pan ewch allan i gerdded, eich bod yn cerdded yng nghwmni cyfaill fydd yn gwybod beth i’w wneud pe byddech chi’n cael pwl o ‘hypo’ tra ar y daith.
  • Gall hypos gohiriedig (i fyny hyd at 36 awr) ddigwydd wrth i’r cyhyrau ail-ymegnïo yn dilyn gweithgaredd corfforol. Os byddwch chi’n ymarfer yn ddwys, efallai y byddwch angen addasu cymeriant eich prydau bwyd er mwyn osgoi dioddef o hypos gohiriedig.
  • Cymerwch ofal neilltuol i edrych ar ôl cyflwr eich traed.

Mae gan sefydliad ‘Diabetes UK’ wybodlenni penodol ar ymarfer corfforol, er budd pobl sy’n cael eu traferthu gyda’r clefyd melys neu’r diabetes.

Pobl gyda’r Clwy’ Digwydd neu Epilepsi

Gall pobl gyda’r clwy’ digwydd neu epilepsi - os ydyw’n cael ei reoli’n effeithiol gyda chymorth meddyginiaeth - fwynhau’r un math o gerdded, a throedio’r un math o lwybrau â cherddwyr eraill.

  • Adeiladwch i fyny eich ymarfer corfforol gan bwyll ac yn raddol, a pheidiwch â straenio, gorymlâdd na’ch gorflino eich hun; a chynlluniwch drywydd-lwybrau y gellir eu byrhau os bydd digwydd i chi deimlo’n orflinedig yn ystod y siwrnai
  • Cariwch gyda chi eich Cerdyn Adnabod (Id Card) Epilepsi, a ddyroddir gan sefydliad Epilepsy Action.
  • Meddyliwch am dirwedd y daith pan fyddwch yn cynllunio i fynd am dro, yn arbennig felly os ydych chi’n tueddu i brofi trawiadau (strociau neu ffitiau) o bryd i’w gilydd.
  • Osgowch dir serth, boed ar i fyny neu ar i waered, a llwybrau sy’n agos at ochr dibyn serthochrog (clogwynog, cribog, diffwysol, gogwyddog). Y perygl mwyaf yn ystod trawiad, fel arfer, ydyw i chi niweidio eich pen o ganlyniad i gwympo i lawr; ac felly dylech fod yn wyliadwrus y gallai llwybrau anwastad achosi trafferthion posibl i chi.
  • Os ydych chi’n pryderu ynglŷn â chael trawiad neu ffit, cerddwch yng nghwmni cyfaill neu gymar sy’n gwybod beth i’w wneud pe byddai i achlysur felly ddigwydd.

Pobl gyda Mudoledd Cyfyngedig a Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn

Mae pobl gyda mudoledd cyfyngedig (h.y. pobl nad ydynt yn abl i symud yn gwbl rwydd a didrafferth) yn wynebu nid yn unig ddiffyg darpariaeth, ond hefyd ddiffyg gwybodaeth fanwl am gyflwr a nodweddion ffisegol llwybrau. Pan fo gwybodaeth dda ar gael, gall defnyddwyr benderfynu drostynt eu hunain os ydyw ryw drywydd-lwybr penodol neu’i gilydd yn addas neu ddim iddynt hwy i’w dramwyo.

Mae’r math yma o wybodaeth yn ddefnyddiol hefyd i nifer o ddefnyddwyr sy’n gorfforol abl, megis y rheiny gyda phlant dan eu gofal neu â phlant ifainc iawn mewn cadeiriau gwthio, neu bobl sy’n chwilio am lwybrau hawdd a diymdrech ag iddynt arwynebedd llyfn. Ond er bod peth cynnydd wedi ei wneud tuag at greu safonau hygyrchedd cenedlaethol i lwybrau, a bod gwaith ar y gweill i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am lwybrau sy’n cwrdd â’r cyfryw safonau, y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod cryn bellter i fynd eto i’r cyfryw berwyl. Dylai’r deddfau newydd a anelir at roi terfyn ar wahaniaethu a gwella’r rhwydwaith llwybrau er budd y gymuned gyfan, fod o gymorth i’r perwyl hwn.

Dylai’r cynghorau a chanolfannau gwybodaeth fedru argymell o leiaf rai llwybrau a thrywydd-lwybrau hygyrch.

Yn achos defnyddwyr cadeiriau olwyn, mae’r sgwteri mudoledd ‘pob tir’ (h.y. y gellir eu gyrru ar unrhyw fath o dirwedd daear) a ddyfeisiwyd gogyfer eu defnyddio ar drywydd-lwybrau mwy anwastad a garwach, wedi ehangu’r opsiynau yn enfawr; ond gall y cyfryw gerbydau fod yn ddrud, a bydd eu defnyddwyr yn parhau i wynebu trafferthion wrth ddod ar draws camfeydd (sticlau neu gledrau), grisiau (stepiau), a llwybrau cul neu dramwyfeydd wedi eu blocio. Mewn rhai parciau gwledig a chanolfannau gwybodaeth cefn gwlad mae sgwteri o’r fath ar gael, naill ai ar fenthyg neu i’w llogi at eu defnyddio yn y fan a’r lle.

Mae Ymddiriedolaeth y Sogiar a Cherddwyr Anabl - Fieldfare Trust a Disabled Ramblers yn barod iawn i ddarparu cyngor, ac mae’r Cerddwyr Anabl hefyd yn trefnu digwyddiadau grŵp wedi eu seilio ar ddefnyddio sgwteri mudoledd.