Rhaglen Dewch i Gerdded Cymru yn cael ei hestyn!
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod Dewch i Gerdded Cymru, y rhaglen teithiau cerdded iechyd, wedi’i hestyn gan Lywodraeth Cymru ac y caiff ei chynnal am 12 mis arall.
Fe fyddwn ni’n parhau i helpu mwy na 100 o grwpiau sy’n cynnig teithiau cerdded iechyd i dros 10,000 o bobl ar hyd a lled Cymru.
Mae’r rhaglen yn darparu teithiau i bobl sy’n ddisymud, sydd wedi cael cyngor i ymarfer neu sy’n adfer o broblemau iechyd.