Mae cerdded a chysylltu â natur yn hanfodol i'n hiechyd a'n lles, ond ers gormod o amser bu diffyg buddsoddiad yn yr ased cenedlaethol, sef ein rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Rydym yn colli mynediad i’n llwybrau oherwydd ôl-groniadau o ran cynnal a chadw, rhwystrau anghyfreithlon, ac oedi cyfreithiol. Ledled Cymru, mae degau o filoedd o broblemau llwybrau yn aros i gael eu gweithredu, ac mae’r niferoedd yn dal i dyfu. Mae angen i ni weithredu!
Mae'n bryd 'Rhoi eich troed i lawr a gwneud eich marc' drwy addo eich cefnogaeth i'n llwybrau
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad i'n rhwydwaith llwybrau drwy:
- Ariannu teg ar gyfer cynnal a chadw a gwella llwybrau, sy'n cyfateb i o leiaf 10% o gyllidebau Teithio Llesol.
- Gwybodaeth gyhoeddus hygyrch am gyflwr llwybrau lleol i helpu i ysgogi gweithredu lleol.
Credwn y bydd y camau hyn yn helpu i roi cerdded wrth galon ein cymunedau, yn cefnogi ymdrechion i adfer yn wyrdd ar ôl covid ac yn gwella ein mannau gwyrdd. Mar llwybrau o ansawdd da yn gwneud ein cymunedau'n iach, a llefydd deniadol i fyw, gweithio a gwirfoddoli ynddo.
Llofnodwch ein haddewid i gefnogi ein hymgyrch i ddiogelu a gwella ein rhwydwaith llwybrau.
Bydd yr addewidion yn cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru yn y Senedd yn yr hydref fel rhan o'n hymdrechion ymgyrchu.