Skip navigation |

Cerdded er eich lles

Cerdded er eich llesSut y gall pawb ddechrau mwynhau’r manteision o gerdded yn rheolaidd, gyda chymorth y corff elusennol mwyaf sy’n bodoli er budd cerddwyr, yng Nghymru yn ogystal â thrwy Brydain gyfan..

The Foundation for Sport and the Arts

Dymuna Cymdeithas y Cerddwyr fynegi ei gwerthfawrogiad i Sefydliad Chwaraeon a’r Celfyddydau, am gymorth-gynhaliaeth ariannol atgynhyrchu’r llyfryn hwn.

English

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael hefyd mewn amryw o wahanol ffurfiau.

  • Fersiwn gwefan
    Cyflwynir hwn ar ffurf cyfres o dudalennau gwefan argraffydd-gyfeillgar. Dechreuwch ddarllen ymhellach i lawr y dudalen.
  • Ferswin PDF
    Mae popeth yma mewn ffeil sengl y gellir edrych arni neu ei hargraffu, trwy ddefnyddio cyfrwng y darllenydd Adobe Acrobat Reader, mewn gosodiad tudalen sy’n ymddangos ar y sgrin yn debyg iawn i’r fersiwn argraffedig, er ei bod wedi ei hoptimeiddio gogyfer defnydd deuol y wefan ac argraffu gartref. Lawr-lwythwch nawr. (1MB).
  • Fersiwn argraffedig
    Mae’r fersiwn yma ar gael oddi wrthym ni ar ffurf llyfryn lliw dwyieithog. Os gallwch feddwl am le da lle gellir dosbarthu’r fersiwn argraffedig (er enghraifft, mewn canolfan gymunedol neu ar stondin mewn rhyw ddigwyddiad lleol), yna byddwch gystal â chysylltu â ni, os gwelwch yn dda.
  • Fersiwn gwefan Saesneg.

Ynghylch Cerdded er eich Lles

Cerdded er eich lles
Richard Mann

Dewch allan i ddarganfod y pleserau a’r manteision o droedio yn y dref a’r cefn gwlad - y peth agosaf at ymarfer corfforol perffaith, y dull mwyaf cynaladwy o gludiant, a’r hamdden-ddifyrrwch awyr agored mwyaf poblogaidd yng Nghymru a Phrydain.

Bydd y tywysydd hwn yn eich helpu i ddarganfod ymhle y gallwch fynd ar droed, beth fyddwch ei angen, sut y gall cerdded wella cyflwr eich iechyd, sut i annog plant i gerdded, a llawer iawn mwy. Mae ynddo hefyd gyngor ymarferol i gerddwyr â chanddynt anableddau, ynghyd ag awgrymiadau ar sut i ddod o hyd i droed-lwybrau hawdd i’w cerdded yn agos at y man lle rydych chi’n byw.

Mae’r cyhoeddiad Cerdded er eich Lles yn tynnu oddi ar brofiad Cymdeithas y Cerddwyr, y corff elusennol mwyaf ei faint sydd yn gweithio i hyrwyddo cerdded a gwella amodau i gerddwyr. Gyda thros 142,000 o aelodau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, rydym ni wedi bod yn llafurio ar ran cerddwyr am 70 mlynedd. Cefnogwn bawb sy’n cerdded, o ddechreuwyr pur a hamdden-grwydrwyr i’r llwybrwyr difrifol a’r brasgamwyr brwdfrydig a phrofiadol; o grwpiau teuluol i rhodwyr unig, yn ogystal â’r cerddwyr ifainc a’r cerddwyr ifainc iawn o galon. Ystyriwch ymuno â ni drwy ymaelodi neu drwy wneud cyfraniad ariannol i’r ymgyrch.

Tudalennau yn Cerdded er eich Lles

Gweler hefyd