Skip navigation |

Cerdded er eich lles

Cerdded yn y Cefn Gwlad

Beth ydyw’r canllawiau parthed cerdded yn y cefn gwlad ehangach?

family with pram
Photo: Mosaic Project/BEN/CNP

Yng Nghymru a Lloegr mae gennych chi hawl i gerdded ar fannau y’i gelwir yn ‘hawliau tramwy’; - sef llwybrau troed, llwybrau march (sydd hefyd ar agor i seiclwyr a marchogion) a chilffyrdd (lle y gallwch gyfarfod o bosib â cherbydau modur pob tirwedd, h.y. cerbydau modur y gellir eu gyrru oddi ar y priffyrdd caled - sydd angen trwydded dreth ecséis i’w defnyddio). Dangosir lleoliad yr hawliau tramwy ar fapiau’r Arolwg Ordnans, a dylent fod wedi eu cyfeirnodi ag arwyddbyst priodol yn yr union fannau lle byddont yn gadael y ffordd fawr. Efallai y byddant wedi eu ‘cyfeirnodi’ gyda saethau lliw yr holl ffordd ar hyd trywydd y llwybr: saethau melyn i ddynodi troed-lwybrau, saethau glas i nodi march-lwybrau (llwybrau ceffylau), a saethau coch i gyfeirio trywydd cilffyrdd. At hynny, ceir hefyd yr hyn a elwir yn ‘llwybrau goddefol’ lle bo’r tirfeddiannwr yn caniatáu i’r cyhoedd eu defnyddio.

Cyflwynwyd hawliau newydd yn ddiweddar yng Nghymru a rhannau o Loegr i ddarparu hawliau mynediant i gefn gwlad agored - mynyddoedd, gweunydd, bryniau, rhosydd a chytiroedd (tiroedd comin) cofrestredig. Yn yr ardaloedd diffiniedig hyn bydd hawl gennych o hyn allan i grwydro’n rhydd yn ôl eich mympwy, gan ddefnyddio unrhyw lwybr neu hyd yn oed gerdded oddi ar y llwybr. Hefyd mae ardal-fannau ar gael - fel parciau a gofodau agored, a nifer helaeth o diroedd ym mherchnogaeth sefydliadau megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Comisiwn Coedwigaeth ac Ymddiriedolaeth y Coetiroedd - lle mae hawl mynediant eisoes yn bodoli. Gelwir y cyfryw fannau yn ‘dir mynediant’ (neu weithiau’n ‘dir hygyrch’) ac fe’u dangosir hefyd ar gyfres mapiau’r AO Archwiliwr - OS Explorer; ond mewn rhai achosion bydd hawl mewn gan berchennog y tir o bryd i’w gilydd i orfodi cyfyngiadau neu gaeadau. Gwiriwch (tsieciwch) y sefyllfa ar y pryd drwy gysylltu â, neu drwy ymweld â gwefan, naill ai Gyngor Cefn Gwlad Cymru neu’r Asiantaeth Cefn Gwlad - Mynediant Cefn Gwlad (countrysideaccess), cyn dechrau ar eich siwrnai.

Mae deddfwriaeth newydd yn yr Alban wedi cadarnhau hawliau traddodiadol i’r cyhoedd hygyrchu’r rhan fwyaf o diroedd, gan gynnwys y rhan fwyaf o lwybrau, cyn belled â’ch bod chi’n ymddwyn yn gyfrifol. Darperir cyfarwyddyd ar yr hyn a olygir wrth ‘ymddygiad cyfrifol’ mewn llyfryn a gyhoeddir gan sefydliad Treftadaeth Naturiol yr Alban (SNH), dan y teitl Côd Mynediant i’r Awyr Agored yn yr Alban (Scottish Outdoor Access Code).

I ble bynnag yr ewch, byddwch gystal os gwelwch yn dda, â dilyn y Côd Cefn Gwlad yng Nghymru a Lloegr, neu’r Côd Mynediant i’r Awyr Agored yn yr Alban.

A alla’ i fynd â chadair wthio ar lwybr troed?

Gallwch, er nad oes gwarant y bydd y llwybr dan eich ystyriaeth yn addas at hynny. Fe allai’r llwybr fod yn gul neu’n anwastad, neu fod arno gamfeydd (sticlau) lletchwith. Am gymorth ar ganfod trywydd-lwybrau addas, gweler ein cyngor i bobl gyda thrafferthion symudoledd.

A alla’ i fynd â’m ci gyda mi?

Yn Lloegr a Chymru gallwch fynd â’ch ci gyda chi ar hawliau tramwy cyhoeddus, ond rhaid i chi ei gadw dan reolaeth dynn ac agos, yn arbennig felly yn ymyl stoc anifeiliaid fferm (da byw). Fel arfer, gallwch fynd â chi gyda chi ar ‘dir mynediant’ (‘tir hygyrch’) fel yr esboniwyd uchod, ar yr amod eich bod yn ei gadw ar dennyn byr ag iddo hyd penodol o 2 metr, rhwng y 1af Mawrth a’r 31ain Gorffennaf, ac ar unrhyw adeg pan ym mhresenoldeb neu yn agos at anifeiliaid fferm. Ar lwybrau ac mewn ardaloedd o gefn gwlad a fo ‘ar agor trwy oddefiad’ neu gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, efallai y gofynnir i chi gadw eich ci ar dennyn, neu beidio â dod ag ef gyda chi o gwbl. Gwiriwch (tsieciwch) am arwyddion lleol.

Yn yr Alban gallwch gerdded gyda’ch ci ar y ddealltwriaeth eich bod yn ei gadw dan reolaeth briodol, yn arbennig felly pan fo da byw yn gyfagos. Peidiwch â mynd â chi i mewn i gaeau lle bo anifeiliaid ifainc, nac ychwaith i feysydd lle tyfir bwydlysiau a ffrwythau, oni bai bod llwybr wedi ei farcio’n glir drwy’r cnydau; ac os oes, yna rhaid i chi lynu’n ddiwyro at drywydd y llwybr hwnnw. Cadwch gŵn yn dynn dan eich rheolaeth neu fel arall ar dennyn byr, rhwng misoedd Ebrill a Gorffennaf, mewn ardal-fannau megis gweundiroedd, fforestydd, glaswelltiroedd, glannau llynnoedd a môr-draethau; er mwyn osgoi tarfu ar anifeiliaid magu.

Pwy sydd i fod i edrych ar ôl cyflwr llwybrau a chadw golwg ar ansawdd y mynediant sydd ar gael i gefn gwlad?

Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol (y cynghorau) ydyw’r materion sy’n ymwneud â llwybrau troed ac â mynediant i gefn gwlad, ar wahân i barthau’r parciau cenedlaethol, lle bydd awdurdod y parciau cenedlaethol fel arfer yn cymryd y cyfrifoldeb. Yn y rhannau hynny o Loegr sy’n parhau i fod â chynghorau sir a dosbarth y naill a’r llall, yna gyda’r cyngor sir y gorffwysa’r cyfrifoldeb.

Gallwch fod o gymorth i gadw mynediant yn glir er budd cerddwyr eraill, trwy roi gwybod i’r awdurdod perthnasol am unrhyw broblemau y deuwch ar eu traws; fel rhwystradau, rhybudd-arwyddion anghyfreithlon i annog y cyhoedd i gadw draw, llwybrau wedi eu haredig (eu troi a’u trin yn amaethyddol) neu lwybrau wedi eu neilltuo ryw ffordd arall at ddibenion cnydio. Yn ogystal â hynny, gallwch gofnodi adroddiadau am drafferthion llwybrau drwy gyfrwng gwefan y Cerddwyr, neu drwy ddefnyddio ein ffurflenni penodol ar gyfer reportio neu adrodd gwybodaeth o’r fath.

Tudalennau yn Cerdded er eich Lles

Gweler hefyd