Skip navigation |

Cerdded er eich lles

Oeddech chi’n gwybod...?

Oeddech chi’n gwybod
Photo: Richard Mann

...Cerdded ydyw’r gweithgaredd agosaf at ymarfer corfforol perffaith, a’r modd mwyaf cynhaliol o symud o fan i fan, a’r hamdden-ddifyrrwch awyr agored mwyaf poblogaidd o bell ffordd ledled Cymru a thrwy Brydain drwyddi draw. Gall bron iawn bawb fwynhau cerdded, does dim angen sgiliau na chyfarpar arbenigol arnoch, a gallwch gerdded bron iawn yn unrhyw fan ar unrhyw adeg am gyhyd neu am gyn lleied o amser ag a fynnwch. Mae’n ffordd ddelfrydol o gyflwyno sesiynau o ymarfer corfforol yn rheolaidd i mewn i batrwm eich bywyd bob dydd, cynigia ffordd ardderchog o ddianc rhag straen prysurdeb y bywyd cyfoes, a darpara gyfle dihafal i chi fedru archwilio eich amgylchedd lleol...

…Argymhella’r arbenigwyr y dylem ni i gyd dreulio o leiaf hanner awr y dydd, bum niwrnod yr wythnos, ynghlwm wrth ryw fath o ymarfer corfforol cymedrol; ond dim ond 20% o bobl yn y Deyrnas Gyfunol sydd ar hyn o bryd yn ymarfer ffordd o fyw sy’n gyfaddas â chadw a chynnal eu cyrff ar lefel ddigonol iach o ffitrwydd…
(Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol - Uniongyrchol)

…Mae diffyg ymarfer corfforol erbyn hyn yn achosi mwy o salwch o fewn yr Undeb Ewropeaidd na’r hyn a achosir gan ysmygu…
(Sefydliad Iechyd Byd-eang)

…Yn wahanol i fynd i’r gampfa neu’r gymnasiwm, mae cerdded yn weithgaredd y gellir ei wneud yn ddi-dâl, heb fod iddo ond lefel isel o effeithiau ardrawol; ac mae’n ddull naturiol o ymarfer sy’n cynnig amrywiaeth o amgylchfydoedd wrth i chi gerdded mewn gwahanol fannau, ar adegau gwahanol o’r dydd ac ar dymhorau gwahanol o'r flwyddyn...
(Cymdeithas y Cerddwyr)

…Mae cerdded i’r ysgol yn ffordd ddelfrydol o ymgyrraedd tuag at y nifer o oriau'r dydd o ymarfer, a argymhellir gogyfer plant a phobl ifainc...
(Adran Iechyd)

…Mae pobl yn gwneud mwy na 33 miliwn o deithiau i gefn gwlad Cymru bob blwyddyn, gan dywys gyda hwy oddeutu £548 miliwn o bunnoedd. Dywed 65 y cant o’r cyfryw ymwelwyr mai’r atyniad cryfaf a’r gweithgaredd mwyaf pwysig sy’n eu denu hwy i ddod yma, ydyw cerdded...
(Carwyn Jones, Gweinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a’r Cefn Gwlad)

...Ar droed y cwblheir 78% o’r siwrneiau sydd dan un filltir o hyd, ac mae cerdded yn parhau i fod y dull mynychaf ei ddefnydd o hygyrchu cludiant cyhoeddus...
(Ystadegau Cenedlaethol)

…Mae cerdded yn eich helpu chi i golli pwysau tra ar yr un pryd yn eich gwneud yn fwy ffit ac iach. Gallwch drefnu i gynnwys cerdded o fewn rhaglen eich gweithgareddau beunyddiol; mae’n rhywbeth y gallwch ei wneud yn ddi-dâl ac am ddim, gan arbed arian petrol neu bris tocyn bws, ac mae hefyd yn helpu’r amgylchedd...
(Yr Athro Jo Doust, Prifysgol Cymru Aberystwyth)

…Mae mannau sy’n gerddwyr-gyfeillgar yn naturiol felly yn fannau pobl-gyfeillgar. Bydd ystyried anghenion cerddwyr fel blaenoriaeth yn arwain at gaffael amgylchedd mwy atyniadol a dymunol, y ‘gellir byw ynddo’, er lles a mantais i bawb...
(Cludiant 2000)

Tudalennau yn Cerdded er eich Lles

Gweler hefyd