Skip navigation |

Cerdded er eich lles

Syniadau ar gyfer cerdded ysgafn yn lleol

Parciau

I’r rhan fwyaf ohonom, y parc cyfagos ydyw’r dewis mwyaf cyfleus pan ydym ni am brofi seibiant adfywiol mewn awyrgylch hamddenol a gofod gwyrdd. Mewn rhai o’r parciau ceir trywydd-lwybrau a thywys-lwybrau wedi eu cyfeirnodi ag arwyddbyst, arwyddion neu symbolau. Y cynghorau lleol sydd fel arfer yn gyfrifol am y cyfryw barciau a’r arwyddion, a gallant ddarparu i chi fwy o wybodaeth ynghylch eich parc lleol chi yn ogystal â manylion am barciau cyfagos eraill. Ceisiwch ddyfeisio eich trywydd-lwybr eich hun i gysylltu rhwng y naill barc â’r llall, trwy ddefnyddio strydoedd, palmentydd a llwybrau tawel.

Dyfrffyrdd

Walking for you
Phillip Waterman

Gan fod dwy ran o dair o boblogaeth Cymru yn byw o fewn deng milltir oddi wrth ryw ddyfrffordd neu’i gilydd, mae’n rhaid felly bod un ohonynt yn agos at y man lle rydych chi’n byw. Mae ‘llwybrau tynnu’ y camlesi yn fannau sy’n darparu cyfleoedd ardderchog i gerdded ysgafn a hamddennol. Maen nhw bron yn ddieithriad yn wastad a lled-lyfn, gydag adrannau hygyrch o safbwynt defnyddio cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio plant; ac o fewn yr ardaloedd trefol darparant gyswllt rhyfeddol o wyrdd a thawel at gyrraedd ar droed o un man i’r llall. Bydd plant fel arfer yn mwynhau arsylwi ar beirianwaith ac adeiladwaith camlesi; megis dyfais y lociau, a’r modd y cynlluniwyd ffurf y gamlas i hirgychod fedru mynd heibio ei gilydd yma a thraw.

Ceir nifer o lwybrau tywys hefyd yn dilyn glannau afonydd; ac mae bod ar fin dŵr - boed redegog neu lonydd - yr un modd â bod mewn gofod gwyrdd, yn brofiad sy’n peri i ni deimlo’n dda, wrth i ni uniaethu â byd natur yr awyr agored. Gall cwmni’r Dyfrffyrdd Prydeinig ddweud rhagor wrthych chi am rwydwaith y camlesi, ac am y llwybrau tynnu sydd ar gael yn eich cyffiniau chi

Coetiroedd

Rheolir y rhan fwyaf o fforestydd mwyaf Prydain a Chymru fel ei gilydd gan y Comisiwn Coedwigaeth, sy’n ymestyn anogaeth a chroeso i ymwelwyr ar droed; ac ar nifer o’u safleoedd mae trywydd-lwybrau ysgafn a hawdd i’w troedio, canolfannau ymwelwyr, ynghyd â sawl math arall o gyfleusterau. Mae’r Ymddiriedolaeth Coetiroedd yn berchen ar 114 o goedwigoedd yng Nghymru sy’n agored i’r cyhoedd. Mae prosiectau cymunedol newydd mewn bodolaeth sydd nid yn unig yn plannu coed ond sydd hefyd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer gweithgareddau hamdden-ddifyrrwch; bydd cynghorau lleol â’r manylion perthnasol i’w hardaloedd penodol hwy eu hunain.

Parciau Gwledig

Parciau enfawr ydyw’r rhain, ag iddynt gymeriad gwledig, mewn lleoliadau sydd gan amlaf gerllaw ardaloedd trefol eu natur. Dyma gyrchfannau rhagorol lle cynigir llwybrau hawdd i’w tramwyo, yn aml iawn gyda mynediant hwylus i bobl anabl, ac sy’n cynnwys rhai safleoedd gwirioneddol fendigedig o hardd. Bydd eich cyngor lleol neu eich canolfan ymwelwyr lleol yn gwybod popeth fydd arnoch angen ei wybod, am y parciau gwledig agosaf at y lle rydych chi’n byw. Rhestrir rhai parciau gwledig ar ein tudalennau Parciau a Chefn Gwlad Rhanbarthol.

Gwarchodfeydd Natur

Mae cannoedd o warchodfeydd natur ar gael, sy’n amrywio o sgwariau diymhongar o diroedd heb eu trin mewn cyffiniau trefol, hyd at ddarnau tra helaeth o arfordiroedd sydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae nifer fawr o warchodfeydd natur ar agor i’r cyhoedd eu hygyrchu’n rhad a di-dâl, a’r ffordd orau i’w gweld ydyw ar droed. Rheolir y rhan fwyaf ohonynt gan sefydliadau fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyll a’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar neu’r cynghorau lleol.

Y cefn gwlad

Os ydych chi’n byw mewn ardal wledig, mae’n fwy na thebyg bod gennych chi dramwyfeydd gwych i’w troedio ar drothwy eich drws, naill ar ffurf yr hen droed-lwybrau traddodiadol lleol a fu wastad mewn bodolaeth, neu yn rhinwedd y llwybrau ychwanegol a agorwyd i’w harchwilio o’r newydd yn sgîl deddfwriaeth ddiweddar y tir mynediant agored.

Bydd y rhai hynny sy’n byw mewn trefi fel arfer yn canfod bod darn o gefn gwlad yn hygyrch iddynt o fewn cyrraedd gweddol rwydd, gan amlaf drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Yn aml iawn bydd cerddwyr profiadol yn cynllunio eu trywydd-deithiau eu hunain drwy’r cefn gwlad gyda chymorth mapiau (gweler Nawr rydych chi'n cerdded); ond os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus i wneud hynny, yna ceisiwch ddethol trywydd-lwybr arwyddedig (ag arno gyfeirbyst neu bolion symbolau) neu defnyddiwch dywyslyfr. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’ch eich hawliau tra’r cerdded yn y cefn gwlad, gweler Cerdded yn y cefn gwlad.

Ardaloedd gwarchodedig

Mae rhai rhannau mawr o gefn gwlad eithriadol o brydferth – megis y Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n mwynhau gwarchodaeth arbennig. Gall canolfannau a swyddfeydd ymwelwyr ddarparu syniadau a chyngor i chi ar gerdded yn lleol. Gallwch ddarganfod rhagor am y cyfryw ardaloedd yn ein hadran ar y Parciau a Chefn Gwlad.

Trywydd-lwybrau cerdded

Mae’r hyn a elwir weithiau yn ‘gyfeir-lwybrau hyrwyddedig’ sef trywydd-lwybrau ag iddynt arwyddbyst cyfeiriedig ac enwau cydnabyddedig, yn cynnwys pob math o lwybrau; - o dywys-lwybrau ysgafn a ystyrir yn fuddiol i gerddwyr sydd am gadw’n iach a heini, ynghyd â thrywydd-lwybrau treftadaeth, i lwybrau trwm a heriol a ddefnyddir at ddibenion heicio hirfaith ac egnïol drwy ardaloedd garwach o gefn gwlad. Cefnogir rhai ohonynt, sef y rhai a ddynodwyd fel y Trywydd-lwybrau Cenedlaethol (National Trails) yn Lloegr a Chymru, ynghyd â’r Trywydd-lwybrau Pellter Hirfaith yn yr Alban (Long Distance Routes - Scotland), yn uniongyrchol gan asiantaethau’r llywodraeth genedlaethol; tra bo cynghorau lleol a gwahanol sefydliadau - gan gynnwys Cymdeithas y Cerddwyr - wedi datblygu amryw o drywydd-lwybrau eraill yn ychwanegol.

Yn achos y rhan fwyaf ohonynt mae tywyslyfrau ar gael sydd nid yn unig yn disgrifio’r trywydd-lwybrau ond sydd hefyd yn cynnwys manylion cefndirol diddorol ar elfennau a phynciau perthnasol, megis ffeithiau hanesyddol a gwybodaeth am fywyd gwyllt y cyffiniau, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol ar wasanaethau a chyfleusterau lleol. Does dim rhaid i chi gerdded y trywydd-lwybr ar ei hyd ar y tro; oherwydd yn aml iawn gallwch gerdded adran fer o gyfeir-lwybr llawer hirach, a dychwelyd i’ch dechreubwynt gyda chludiant cyhoeddus; gyda’r dewis o barhau ymlaen ar gymal nesaf y cyfeir-lwybr rywbryd eto’n y dyfodol.

Mae ein hadran ar lwybrau a thrywydd-lwybrau yn rhestru amryw o gyfeir-lwybrau poblogaidd, a gellir cael manylion hefyd o ffynonellau gwybodaeth leol (gweler isod).

Tywyslyfrau ar gerdded

Edrychwch yn adran ‘diddordeb lleol’ y rhan fwyaf o siopau llyfrau, a byddwch yn debygol o ddod ar draws llyfrau sy’n trin a thrafod cyfeir-lwybrau lleol - sydd fel arfer yn llwybrau cylchol. Bydd rhai o’r cyfryw lwybrau yn rhy hir ac anodd i ddechreuwyr, ond mae niferoedd cynyddol o lyfrau a llyfrynnau poced ar gael, sy’n disgrifio cyfeir-lwybrau ysgafn a hawdd, yn ogystal â chyfeir-lwybrau addas i deuluoedd.

Dengys ein tudalennau rhanbarthol ni restr o lyfrau ar gyfeir-lwybrau byrrach, gan gynnwys rhai deunyddiau a gyhoeddir gan Gymdeithas y Cerddwyr.

Mae’r Canolfannau Gwybodaeth Ymwelwyr hefyd yn ffynonellau defnyddiol a da lle y byddwch yn sicr o ganfod deunyddiau - boed bamffledi, map-daflenni, , poced-lyfrynnau, llawlyfrau neu lyfrau manylach - ar gerdded.

Troed-deithiau grŵp

Os nad ydych chi eisiau cerdded ar eich pen eich hun, rhowch gynnig ar gerdded mewn grŵp

Mae gwirfoddolwyr Y Cerddwyr yn trefnu cannoedd o’r rhain; - edrychwch ar yr adran ar ein Grwpiau Lleol. Trefnir troed-deithiau grwpiol hefyd gan gynghorau, gan brosiectau iechyd, a chan sefydliadau eraill (gweler y ffynonellau gwybodaeth isod).

Rhagor o wybodaeth

Mae cynnydd cyson yng nghyfaint y wybodaeth a ddangosir ar ein tudalennau rhanbarthol, yng nghyswllt troed-dramwyo lleol sy’n agos at y lle rydych chi’n byw.

Cynghorau lleol. Mae ganddynt wybodaeth ynghylch parciau a gofodau agored lleol, troed-lwybrau, trywydd-deithiau cerdded, hygyrchedd a chadwraeth byd natur. Y man cychwyn gyda’ch ymholiadau ydyw’r cyngor sir, yr awdurdod unedol neu’r cyngor bwrdeistref sirol. Os ydych chi’n byw mewn rhan o Loegr ag iddo gyngor rhanbarthol, digon posib y gall hwnnw hefyd eich cynorthwyo.

Canolfannau Gwybodaeth Ymwelwyr/Twristiaid.Yn aml iawn bydd pobl yn esgeuluso ac anwybyddu eu Canolfannau Gwybodaeth Ymwelwyr lleol, gan gymryd yn ganiataol am ryw reswm mai dim ond ar gyfer ymwelwyr y maent yn bodoli; ond mae’r cyfryw ganolfannau ar gael at ddefnydd pobl leol hefyd. Fe’u rhestrir hwy yn y cyfeirlyfr ffôn o dan Gwybodaeth Ymwelwyr, ac ar y rhyngrwyd o dan wefan ‘visitbritain’ (tud. 14).

Tudalennau yn Cerdded er eich Lles

Gweler hefyd