Skip navigation |

Cerdded er eich lles

Nawr rydych chi’n cerdded...

Cerdded er eich lles
Richard Mann

Beth am bedometrau?

Cerdded er eich llesDyfais fechan ydyw pedometer, sy’n clipio ar eich gwregys neu eich belt, ac sy’n cyfrif y nifer o gamau y byddwch chi’n eu cerdded. Mae’r mathau symlaf ohonynt yn gymharol rad, ac mae nifer o bobl yn eu hystyried yn declynnau ardderchog i’r diben o gadw golwg ar eu hymarfer corfforol a’u hysgogi i gyflawni mwy. Gall y rhan fwyaf ohonynt fesur a storio gwybodaeth am hyd cyfartalog eich camau, gan ddefnyddio’r ffigur hwnnw i gyfrifo’r pellter y byddwch yn ei deithio pan fyddwch allan yn cerdded. Bydd raid i chi fodloni ar gymryd ychydig bach o amser i osod eich pedometr yn addas yn ôl eich steil personol chi eich hun o gerdded. Mae’r Step-O-Meters yn ddyfeisiadau syml iawn i’w defnyddio, ac wedi eu dyfeisio’n benodol gogyfer hyrwyddo iechyd trwy gerdded.

Gallwch brynu pedometrau mewn siopau chwaraeon neu siopau cyfarpar awyr agored, neu oddi wrth Flaengaredd Cerdded eich Ffordd i Iechyd (Walking the way to Health Initiative). Cymerwch olwg ar dudalen flaen ein gwefan ni am gynigion arbennig.

A fydda’ i angen defnyddio map a chwmpawd?

Os ydych chi’n dilyn trywydd-daith gerdded wedi ei chyfeirnodi yn dda gydag arwyddbyst neu symbolau, mewn tref neu gefn gwlad anghymhleth, neu os byddwch chi’n defnyddio tywyslyfr cymeradwy, yna mwy na thebyg na fyddwch chi eu hangen; er y byddem ni’n eich annog i fynd â thywysydd neu gyfeirlyfr da gyda chi, hyd yn oed os ydyw’r trywydd-lwybr wedi ei gyfeirnodi’r foddhaol gydag arwyddbyst neu symbolau cydnabyddedig. Mae gwybod sut i ddefnyddio map yn sgìl ddefnyddiol, fodd bynnag, ac yn un hawdd i’w dysgu. Bydd yn eich cynorthwyo chi pe byddech yn mynd ar goll ar unrhyw adeg, bydd yn cynnig i chi fwy o opsiynau pan fyddoch angen dargyfeirio neu angen darganfod ‘ffordd ddianc’, a byddwch yn medru dyfeisio eich trywydd-lwybrau chi eich hun.

Gall unedau System Leoli Fyd-eang (y GPS - Global Positioning System) weithio allan eich lleoliad a’ch trywydd-gyfeiriad yn awtomatig, ond mae’r teclynnau hynny’n dra drud, a mwy na thebyg ond yn werth eu hystyried os ydych chi’n bwriadu gwneud cryn dipyn o gerdded yn y cefn gwlad. Mae medrau darllen a defnyddio map a chwmpawd yn hanfodol tra'n cerdded mewn parthau anghysbell a heriol o gefn gwlad. Am gyngor pellach gweler yr adran Cyngor Ymarferol.

Pa fapiau ydyw’r rhai gorau ar gyfer cerddwyr?

Explorer mapsMae cyfres mapiau’r Archwiliwr - Explorer a gyhoeddir gan yr Arolwg Ordnans (OS) ar y raddfa fanwl o 1:25 000 (4cm = 1km neu 2.5 modfedd i’r filltir) yn ddelfrydol at ddefnydd cerddwyr. Dangosant hawliau tramwy cyhoeddus (ar wahân i fapiau’r Alban), trywydd-lwybrau hirfaith, ardal-fannau gyda mynediant ehangach i’r cyhoedd (tir hygyrch neu gefn gwlad agored), lleoliadau'r cylchlwybrau cerdded, ynghyd â llawer o wybodaeth ddaearyddol hynod o ddefnyddiol i ymwelwyr. I ddod o hyd i’ch taflen leol o fapiau’r Archwiliwr, ffoniwch yr OS neu ymwelwch â’u gwefan.

Mae’r Arolwg Ordnans hefyd yn cynnig Mynegai Mapio yn ddi-dâl, ynghyd â thywysydd cyflwyniadol sy’n dra defnyddiol fel canllaw i ddarllen eu mapiau. Mae mapiau OS lleol ar gael yn eang o siopau llyfrau a chan fanwerthwyr eraill, neu gellir eu prynu’n uniongyrchol oddi wrth bencadlys OS. Mewn ardaloedd trefol, gall atlasau strydoedd fod yn aml iawn yn fwy defnyddiol na mapiau’r OS. Mae gan gwmni Philips gyfres dda, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o lwybrau, ar gael o’r rhan fwyaf o allfannau manwerthu perthnasol yn y prif drefi.

Os ydyw cerdded yn weithgaredd am ddim, pam ddylwn i dalu tanysgrifiad i ymuno â Chymdeithas y Cerddwyr?

Mae’r ffaith y gallwn fwynhau cymaint o Brydain ar droed a heb dalu ceiniog am hynny, i’w briodoli i raddau helaeth i Gymdeithas y Cerddwyr. Mae’r Gymdeithas wedi bod yn llafurio am ddeng mlynedd a thrigain (70 mlynedd) yn hyrwyddo cerdded a gwella amodau ar gyfer cerddwyr, yn gwarchod a diogelu rhwydwaith y llwybrau, yn helpu i greu trywydd-lwybrau cerdded wedi eu cyfeirnodi’n briodol, yn gweithio tuag at sefydlu parciau cenedlaethol, yn ennill hawliau mynediant newydd i gerddwyr, ac ynghlwm wrth y nifer di-rif o flaengareddau i’r perwyl o wella iechyd ac ansawdd bywyd pobl trwy gerdded.

Fel corff elusennol cofrestredig rydym ni wedi ein hymrwymo ein hunain i ddiogelu trywydd-lwybrau yn y dref a’r cefn gwlad, cynyddu mynediad hygyrch i gerddwyr, a gwarchod y cefn gwlad a hyrwyddo cerdded fel gweithgaredd buddiol i bawb; ac yn ddiweddar rydym ni wedi ychwanegu’n fwyfwy eto at fwrlwm ein gweithgareddau, trwy brosiectau sy’n ymestyn allan a datblygu grwpiau cerdded i’r teulu cyfan.

Dibynnwn ar danysgrifiadau aelodaeth a chyfraniadau gwirfoddol i’n galluogi ni i ariannu ein rhaglen ymgyrch hanfodol, a thalu am y gwasanaethau a ddarparwn i bawb. Fel aelod byddwch chi’n derbyn ein cylchgrawn chwarterol ysbrydoledig walk, ein llawlyfr blynyddol walk BRITAIN, gostyngiadau disgresiynol mewn rhai siopau cyfarpar awyr agored, a’r cyfle i ymuno â grŵp cerdded lleol sy’n cynnig crwydr-deithiau tywysedig ynghyd â digwyddiadau cymdeithasol. Gallwch ymuno ar-lein yn awr.

Tudalennau yn Cerdded er eich Lles

Gweler hefyd