[Dydd Llun, 19 Rhagfyr 2005 ]
Bydd Gŵyl Gerdded y Gaeaf boblogaidd Cymdeithas y Cerddwyr (26 Rhagfyr – 2 Ionawr 2006) eleni eto yn arddangos prydferthwch ac amrywiaeth arfordir Cymru, er mwyn tynnu sylw at ymgyrch newydd yr elusen dros fynediad i’r arfordir.
Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn galw am ymestyn hawl mynediad i‘r arfordir i gyd-fynd â’r ‘hawl i grwydro’ a agorodd fwy na 450,000 hectar o dir i’r cyhoedd. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol eisoes wedu cytuno i ymestyn mynediad i arfordir Cymru erbyn 2008/2009, ac mae’r elusen gerdded genedlaethol yn awyddus i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn arwain at y mwyaf o fanteision i’r ychoedd.
Gŵyl Gerdded y Gaeaf yw gŵyl gerdded fwyaf Prydain, a dros 15,000 o bobl yn ymuno bob blwyddyn. Dyma’r ffordd berffaith o roi hwb i’ch cynlluniau i ddod yn heini ac iach yn y flwyddyn newydd. Mae dros 40 o deithiau cerdded amrywiol wedi eu harwain gan aelodau o’r Cerddwyr, pob un am ddim ac yn agored i bawb, wedi eu cynllunio ledled Cymru yn ystod y gwyliau. Mae llawer yn fyr a hamddenol, ac yn addas ar gyfer y teulu cyfan.
Dywedodd Beverley Penney, Cyfawryddwr Cymdeithas y Cerddwyr Cymru: “Does dim byd gwell na giwsgo’n gynnes ar ddiwrnod o aeaf a mynd i’r arfordir lle gall yr awyr glirio’ch meddwl a’ch gadael chi’n teimlo’n llawn o egni ac wedi adfywio Yr arfordir yw uno o adnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr Cymru. Rydym yn galw am ddeddfwriaeth fydd yn sicrhau mynediad i’r cyhoedd ar hyd holl arfordir Cymru.
Bydd pawb sy’n dod ar daith gerdded yn ystod yr Ŵyl Gerdded ac yn dymuno ymuno â’r Cerddwyr yn derbyn gostyngiad o 20% ar bris aelodaeth. Am fanylion llawn, ewch i’n gwefan ar www.ramblers.org.uk/winterwalks