[9fed Medi 2005]
Ydych chi wedi cael llond bol o ddiogi ar y soffa gan ofidio nad ydych chi’n ymarfer eich cyhyrau? Yna beth am gyfnewid y gadair esmwyth am lwybr gwledig yn ystod Wythnos Croeso i Gerdded a drefnir gan Gymdeithas y Cerddwyr, rhwng yr 17eg a’r 25ain o fis Medi 2005.
Mae ‘gŵyl gerdded er lles eich iechyd’ dan drefniadaeth Cymdeithas y Cerddwyr yn gyfle i bawb fwynhau’r awyr agored ardderchog; oherwydd o fewn yr ŵyl hon cynigir bron ddeg ar hugain o droed-deithiau amrywiol ar hyd a lled tirweddau godidog Cymru.
Bydd yr ŵyl, a fydd yn para am wythnos gyfan, yn gyflwyniad rhagorol i fanteision a phleserau yr arferiad o gerdded; gyda digonedd o drywydd-lwybrau byr a rhwydd i’w rhodio i ddewis ohonynt, a fydd yn addas i’r teulu cyfan.
Yng Nghymru, cynigir crwydradau tywysedig ar hyd llwybrau arfordirol, heibio i raeadrau byrlymog, yn tramwyo march-lwybrau, fry ar lethrau bryniog, ac yn dilyn gwastadeddau cledrau hen reilffyrdd a llwybrau tynnu camlesi.
Meddai Beverley Penney, Cyfarwyddwraig Cymdeithas y Cerddwyr yng Nghymru: “Cynlluniwyd y rhodiannau hyn yn benodol gogyfer pobl a fyddai’n gwerthfawrogi’r cyfle i gael eu cyflwyno i’r arferiad o gerdded. Bydd y siwrneiau i gyd yn rhai y gellir eu cwblhau mewn hanner diwrnod, byddant yn gymorth i’ch gwneud chi yn gorfforol yn fwy abl, yn fwy ffit ac iach; a byddant yn rhoi i chi’r cyfle i wneud cyfeillion cerdded newydd.”
Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn trefnu ‘Wythnos Croeso i Gerdded’ fel rhan o ymgyrch y Cwmnïau Teledu Annibynnol (ITV) dan y teitl ‘Prydain ar Droed’ - Britain on the Move, sydd wedi ei fwriadu i annog pobl ym Mhrydain i godi oddi ar eu cadeiriau cyfforddus, i fynd allan i’r awyr iach ac ymarfer eu cyhyrau.
Fel yr ychwanegodd Beverley Penney: “Mae manteision cerdded yn rheolaidd yn rhagori sawl gwaith drosodd ar ffurfiau eraill o ymarfer corfforol; - bydd cerdded am ddim mwy na hanner awr y dydd yn sicr o wella cyflwr eich iechyd”.
At hynny, yn fonws fel petai, bydd unrhyw un a fydd yn ymaelodi â Chymdeithas y Cerddwyr yn ystod yr Wythnos Croeso i Gerdded yn derbyn gostyngiad o 20 y cant oddi ar y tâl aelodaeth (sydd fel arfer yn £24 y flwyddyn).
Gallwch ddod o hyd i fanylion am gerdded yn eich ardal chi, ar wefan Cymdeithas y Cerddwyr, ar: www.ramblers.org.uk/walks