Yr iaith Gymraeg ac enwau lleoedd yng Nghymru (07/2006)
Fis Gorffennaf, lansiodd yr Arolwg Ordnans ei Gynllun Iaith Gymraeg sy'n amlinellu ei bolisïau ynghylch dwyieithrwydd yng Nghymru. Un o dargedau allweddol y Cynllun oedd Llinell Gymorth benodol Gymraeg, a gyflwynwyd fis Chwefror ar gyfer y Cymry Cymraeg o blith cwsmeriaid yr Arolwg Ordnans.
Yn ogystal mae'r Cynllun yn portreadu polisïau ynghylch enwau lleoedd yng Nghymru. Dangoswyd enwau dwyieithog ar leoedd ar fapiau Landranger am y tro cyntaf ym 1991, a bellach fe'u defnyddir ar fapiau graddfa 1:25,000, pan fydd y gofod yn caniatáu hynny. Mae enwau lleoedd i'w gweld hefyd mewn cronfeydd data cyfeirio daearyddol ac maent yn gwbl hanfodol i lawer o ddefnyddwyr mapiau a data'r Arolwg Ordnans, yn enwedig o ran y gwasanaethau argyfwng wrth iddynt ymateb i alwadau brys.
Mae mwy o wybodaeth ar gael am yr Arolwg Ordnans a'i gynhyrchion ar ein gwefan www.ordnancesurvey.co.uk neu drwy ffonio ein Llinell Gymorth ar 08456 05 05 05 neu ein Llinell Gymorth Gymraeg ar 08456 05 05 04.