Allwch chi ein helpu i wella llwybrau a mynediad yn Sir Ddinbych?

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein gwaith i'n helpu i roi cerdded wrth galon cymunedau'r sir

 

ENGLISH

17 Hydref 2023

Mae Ramblers Cymru, elusen gerdded fwyaf Cymru, wedi derbyn cyllid gan ddyraniad Cyngor Sir Ddinbych o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a fydd yn cefnogi prosiect Allgymorth Cymunedol i helpu cymunedau i wella eu llwybrau a'u mynediad.

Bydd y prosiect 1 mlynedd yn gweithio i annog pobl leol yn ardal Llandrillo a Thremeirchion i ddysgu am eu llwybrau a'u mwynhau, yn ogystal â datblygu sgiliau cynnal a chadw llwybrau ymarferol newydd.

Meddai Heather Martin, Swyddog Rhanbarthol Ramblers Cymru yn Sir Ddinbych: "Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein gwaith i'n helpu i roi cerdded wrth galon cymunedau a rhoi cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd. Os ydych chi'n angerddol am gerdded yn eich cymuned, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych."

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: "Mae'r Cyngor yn falch iawn o fod wedi gallu dyfarnu cyllid i Ramblers Cymru o ddyraniad Sir Ddinbych o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect cyffrous hwn sy'n annog pobl leol i ddysgu mwy am eu llwybrau a datblygu sgiliau ymarferol cynnal a chadw llwybrau.

"Mae ein llwybrau yn byrth sy'n cysylltu ein cymunedau ac yn ein helpu i fynd allan i'r amgylchedd naturiol ac yn cysylltu pobl â'u llwybrau trwy edrych ar atebion tymor hir i'w rheoli ar lefel leol."

Ochr yn ochr â rheoli'r llwybrau, y gobaith yw y bydd gwella darpariaeth llwybrau lleol yn helpu mwy o bobl i fynd allan i'r awyr agored a phrofi'r manteision iechyd a lles adnabyddus sydd ar gael, gan helpu i wneud y cymunedau lleol yn lleoedd mwy gwyrdd ac iachach i fyw ac archwilio.

I lansio'r prosiect, byddwn yn cynnal digwyddiadau cymunedol yn Llandrillo (24 Hydref) a Thremeirchion (26 Hydref) gallwch cofrestru trwy e-bostio heather.martin@ramblers.org.uk a dod draw i gael gwybod am y gwaith a rhai o'r partneriaethau yr ydym am eu datblygu.

Mae'r prosiect Allgymorth Cymunedol wedi derbyn £88,332 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.