Accept cookies We use cookies to make your browsing experience better. By using our site you agree to our use of cookies
Angela Charlton Cyfarwyddwr Cymru
Yn gweithio i’r Cerddwyr ers: 2008 Oriau gwaith: Amser-llawn Siarad Cymraeg: Yn dysgu
Beth rydw i’n ei wneud: Fy ngwaith i yw llywio Ramblers Cymru i sefydlu prosiectau o safon uchel a chyrraedd cynulleidfa ehangach. Rydw i am i ni fod yn berthnasol i bawb yng Nghymru, ble bynnag maen nhw. Fe fydda i’n sicrhau bod gennym le amlwg a llais cryf yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yng Nghymru.
Amdana i: Mae gen i fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys ym maes gweithio â’r gymuned yn y wlad a’r dref. Yn fy rolau blaenorol bûm yn gyfrifol am addysg amgylcheddol, codi arian, datblygu a rheoli prosiectau, rheolaeth cefn gwlad ac arwain teithiau cerdded. Rydw i’n dod o Dde Cymru ac rydw i’n frwd dros roi pob cyfle posibl i bobl Cymru ffynnu mewn ffordd gynaliadwy drwy gwrdd â’u hanghenion nhw ac anghenion yr amgylchfyd.
Rebecca Brough Rheolwr Polisi Yn gweithio i’r Cerddwyr ers: Mawrth 2014 Oriau gwaith: AmserLlawn Siarad Cymraeg: Yn dysgu
Beth rydw i’n ei wneud: Fe fydda i’n sicrhau bod gwleidyddion a chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn clywed barn y Ramblers, ac yn defnyddio ein hangerdd a’n gwybodaeth i ddylanwadu ar eu penderfyniadau. Felly fe fydda i’n cyfarfod â gwleidyddion, yn ymateb i ymgynghoriadau, yn ysgrifennu papurau briffio, ac yn cadw llygad ar ddatblygiadau polisi. Ar hyn o bryd rydw i’n canolbwyntio ar baratoi safbwynt Ramblers Cymru ar y newidiadau arfaethedig i’r arweiniad ar Hawliau Tramwy ac ar Bapur Gwyrdd y Llywodraeth ar Fynediad.
Amdana i: Mae gen i gefndir mewn gwaith dylanwadu ar bolisi yn y sectorau llywodraethol, elusennol a statudol. Mae gen i raddau mewn Daearyddiaeth ac mewn Twristiaeth a Rheoli’r Amgylchedd ac rydw i’n frwd iawn dros genhadaeth y Cerddwyr. Rydw i’n byw ger yr arfordir ac fe fydda i’n cerdded ar hyd rhannau o Lwybr Arfordir Cymru yn rheolaidd gyda’m teulu.
Gyda y Ramblers ers: Mawrth 2019 Working hours: Llawn Amser Welsh speaker: Rhugl
Beth rwy'n ei wneud: Fy rôl i yw cefnogi staff a gwirfoddolwyr yng Nghymru ym mhob peth ymgysylltu a chyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys tynnu sylw at y gwaith gwych y mae Ramblers Cymru yn ei wneud ledled Cymru, drwy gyfryngau cymdeithasol, ein gwefan, newyddion ar-lein, y wasg, radio a theledu.
Amdanaf i: Rwyf wedi gweithio ym maes cyfathrebu yn sector yr amgylchedd o'r blaen gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac yna Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn dilyn hyn symudais ymlaen i weithio yn y sector datblygu rhyngwladol gyda Hub Cymru Africa, cyn dechrau fy swydd yma yn y Ramblers. Pan nad ydw i yn y swyddfa gellir dod o hyd i mi yn archwilio mynyddoedd ac arfordir Cymru neu ymhellach i ffwrdd.
Maria Hamlett Swyddog Llywodraethu
Gyda y Ramblers ers: Gorffennaf 2017 Oriau Gwaith: Rhan amser Siarad Cymraeg: Na Beth rwy'n ei wneud: Fy rôl i yw cefnogi Cyngor Cymru a Pwyllgor Gweithredol Cyngor Cymru i sicrhau ei fod yn cyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol a bod safonau llywodraethu rhagorol yn cael eu cymhwyso bob amser.
Amdanaf fi: Mae fy nghefndir yn cynnwys gweithio mewn nifer o sefydliadau trydydd sector mewn rolau llywodraethu allweddol a darparu dealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth ac arferion llywodraethu gorau. Rwy'n mwynhau teithio'n arbennig i safleoedd hanesyddol ac archeolegol.
Cysylltwch â ni ar 029 2064 4308 neu drwy e-bostio cerddwyr@ramblers.org.uk
Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook, Twitter a Instagram