Accept cookies We use cookies to make your browsing experience better. By using our site you agree to our use of cookies
Os oes gennych ymholiadau ynghylch Y Cerddwyr:
Ein horiau agor yw 9.00am-5.00pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener.
Mae swyddfa Y Cerddwyr wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd ac o fewn cyrraedd hwylus i gludiant cyhoeddus. Y cyfeiriad yw 3 Iard y Cowper, Ffordd Curran, Caerdydd, CF10 5NB.
Gweld swyddfa Cerddwyr Cymru ar fap.
Mae intercom ar ochr dde y drws ffrynt. Gwasgwch y botwm a byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau i chi.
Gellir cyrraedd y swyddfa mewn cadair olwyn ac mae toiledau i bobl anabl ar gael.
Mae’n cymryd pum munud i gyrraedd y swyddfa o afon Taf a Llwybr Taf. Mae Caerdydd yn ddinas hygyrch iawn ar droed.
Yr un fath â cherddwyr, gall beicwyr ddefnyddio Llwybr Taf, a gallant barcio eu beiciau yng nghwrt Iard y Cowper.
Os ydych chi’n teithio ar y trên neu fws, cymerwch yr allanfa gefn allan o orsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Croeswch y maes parcio tuag at y Black Horse a swyddfeydd yr AA. Croeswch y briffordd (Ffordd Penarth) a chymerwch y ffordd sy’n mynd rhwng y Black Horse a swyddfeydd yr AA (Ffordd Curran). Ar yr ochr dde, tua 150 llathen i lawr y ffordd, ar ôl mynd heibio i ACT Training Services, gwelwch set o gatiau. Ewch drwy’r gatiau hyn i gwrt Iard y Cowper. Rydym ni ar yr ochr dde – rhif tri.
Os ydych chi’n teithio mewn car, rhaid i chi ddod i mewn i Iard y Cowper drwy Trade Street (oddi ar Ffordd Penarth). Trowch oddi ar Ffordd Penarth ger swyddfa Enterprise Car Hire ac fe welwch ein maes parcio ar y chwith. Mae gennym leoedd cadw yno. Dim ond nifer bach o leoedd parcio sydd gennym.
I gael mwy o wybodaeth i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad ewch i wefan Traveline Cymru.