Accept cookies We use cookies to make your browsing experience better. By using our site you agree to our use of cookies
Ymunwch a ni ar Fedi 4 am gyfres o dair taith gerdded, pob un yn ymweld â Moel Famau, y pwynt uchaf ym Mryniau Clwyd ar Lwybr Clawdd Offa i nodi 50 mlynedd o ddynodiad fel Llwybr Cenedlaethol.
Taith 1: Bodfari i Goed Moel Famau
Pellter: Tua 11.5 milltir / 18.8km
Amser cerdded: 6 awr
Man cyfarfod: Maes parcio Coed Moel Famau / Cyfeirnod Grid SJ 171 610
Amser cyfarfod: 9.00 o’r gloch ar gyfer cludiant i’r man cychwyn ym Modfari.
Cost (yn cynnwys bag a medal):
Ddim yn cynnwys Hoodie Cyfyngedig
Aelodau'r Ramblers - £8 Rhai nad ydynt yn aelod Ramblers - £10
Gan gynnwys Hoodie Cyfyngedig
Aelodau'r Ramblers - £20. Rhai nad ydynt yn aelod Ramblers - £25.
Gan adael Bodfari ar lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, bydd y daith gerdded hon yn ein tywys drwy dirweddau agored bryniau Clwyd. Gan ddechrau ar odre tonnog y bryniau, mae’r llwybr yn esgyn yn araf i’r copa cyntaf yn nhomen gladdu Bryngaer Penycloddiau. Yna, mae’r llwybr yn codi ac yn esgyn yn serth wrth fynd dros ac o amgylch Moel Arthur, Moel Llys-y-Coed a Moel Dywyll cyn arwain at gopa Moel Famau.
Taith 2: Cilcain i Goed Moel Famau
Pellter: Tua 6 milltir / 9.5km
Amser cerdded: 3 awr
Amser cyfarfod: 10.00 o’r gloch ar gyfer cludiant i’r man cychwyn yn yr olygfan ar gyrion Pentref Cilcain.
Byddwn yn gadael y maes parcio tua’r olygfan gan ymuno â’r llwybr sy’n cadw’n glos at y bryniau wrth gerdded tuag at y fan lle byddwn yn ymuno â llwybr Clawdd Offa. O’r fan hon byddwn yn esgyn yn araf gan ddilyn y grib dros gopa Moel Dywyll gan barhau i ddilyn y llwybr i Foel Famau.
Taith 3: Taith Gerdded Clwyd i’r Teulu
Pellter: Tua 5 milltir / 8km
Amser cerdded: 4 awr a mwy
Amser cyfarfod: 11.00 o’r gloch
Byddwn yn gadael parc Coed Moel Famau gan ddilyn llwybrau o amgylch godre bryniau Clwyd, gan gerdded drwy goetir a chroesi afonydd nes byddwn yn cyrraedd y rhan o Lwybr Clawdd Offa sy’n arwain at gopa Moel Famau.
The Big Welsh Walk is funded thanks to the support of the fantastic players of People's Postcode Lottery.