Galw ar gymunedau ar draws Sir Fynwy yn cyflwyno eu diddordeb i wella a datblygu eu llwybrau lleol  

Ydych chi am roi cerdded wrth galon eich cymuned? Gall Ramblers Cymru helpu! 

Yn dilyn llwyddiant ein prosiect Llwybrau i Lesiant ledled Cymru, rydym yn edrych i roi cyfle i gymunedau ledled Sir Fynwy ddatblygu'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i nodi a dylunio llwybrau cerdded lleol newydd a gwella ac uwchraddio rhai presennol, i gyd gyda chymorth gan Ramblers Cymru a Chyngor Sir Fynwy.  

Bydd tair cymuned ar draws Sir Fynwy yn cael eu dewis ar gyfer datblygu, gan gynnwys hyfforddiant am ddim i wirfoddolwyr, felly os hoffech weld gwelliannau mynediad lle rydych chi'n byw, anfonwch e-bost at RamblersCymru@ramblers.org.uk a rhowch y wybodaeth ganlynol:  

  1. Enw eich cymuned; 
  1. Cyfeiriad cyswllt; 
  1. Enw'r cyswllt arweiniol ar gyfer y grŵp a'r rhif ffôn; 
  1. Tua nifer y gwirfoddolwyr sy'n debygol o gymryd rhan; 
  1. Disgrifiad byr o pam y byddai hyn o fudd i'ch cymuned. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Mehefin 2023. 

Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i helpu i hyrwyddo mynediad i fannau gwyrdd i aelodau o'ch cymuned leol eu mwynhau. Trwy enwebu eich cymuned, gallwch fod yn rhan o'r prosiect cyffrous hwn, gan ennill ystod eang o sgiliau newydd gyda chymorth ac arweiniad arbenigol gan Ramblers Cymru a Chyngor Sir Fynwy. Bydd yn gyfle gwych i ddod â'r gymuned ynghyd â gweithgareddau i bawb gymryd rhan ynddynt! Rydym am weld pobl o bob oedran a chefndir yn cymryd rhan! 

Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Ramblers Cymru: "Rydym am barhau i roi cerdded wrth galon ein cymunedau. Mae hwn yn gyfle gwych i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy ar lawr gwlad i sicrhau y gall pawb gerdded a mwynhau mynediad at natur a mannau gwyrdd a'r manteision iechyd a lles a ddaw yn sgil hyn, yn eu hardal leol." 

Dywedodd Sara Burch, Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Gymunedau Cynhwysol ac Egnïol: "Mae rhwydwaith hawliau tramwy Sir Fynwy yn dreftadaeth anhygoel, ac yn rhan bwysig o'n dyfodol carbon isel, yn ogystal â denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Ond gyda dros 1000 milltir o lwybrau na allwn ei gynnal ar ein pennau ein hunain, mae'n rhaid iddi fod yn bartneriaeth rhwng Sir Fynwy, cymunedau lleol, cerddwyr a thirfeddianwyr. Dyna pam mae'r bartneriaeth hon gyda'r Ramblers mor bwysig.  Mae pobl sydd eisoes wedi ymuno â'u grwpiau gwirfoddolwyr llwybrau lleol wedi dod yn fwy heini, gwneud ffrindiau newydd ac ennill sgiliau newydd, a gallant fod yn falch iawn o'r hyn y maent wedi'i gyflawni."