Llwybrau i Lesiant yn creu 145 llwybr cerdded newydd

Mae prosiect blaenllaw Ramblers Cymru yn helpu cymunedau i wella natur leol a mynediad

ENGLISH

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae prosiect blaenllaw Ramblers Cymru, Llwybrau i Lesiant, wedi bod yn gweithio mewn 18 cymuned ledled Cymru i arfogi gwirfoddolwyr â'r sgiliau a'r wybodaeth i reoli a gwella llwybrau a natur yn eu hardaloedd lleol. 

Dywedodd cyfarwyddwr Ramblers Cymru, Angela Charlton: "Cafodd y prosiect ei greu i edrych ar ffyrdd newydd o wella llwybrau a mynediad, gan ein bod yn amcangyfrif bod tua 50% o'r llwybrau (Hawliau Tramwy Cyhoeddus) yng Nghymru yn anhygyrch. 

"Rydym yn credu mai'r model prosiect Llwybrau i Lesiant yw'r ffordd ymlaen, a bod angen i ni weithio gyda chymunedau i'w helpu i gymryd perchnogaeth o'u rhwydwaith llwybrau lleol. Gall rhoi cerdded wrth galon y gymuned gyflawni cymaint o fanteision, o well iechyd a lles i ddenu ymwelwyr a all roi hwb i'r economi leol a chysylltu cymunedau â'i gilydd a'u treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog." 

Y 145 llwybr cerdded newydd, sy'n addas i'r teulu yn bennaf, ac sy'n cynnwys rhai ardaloedd sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis (lle bo'n bosibl), ci'w gweld a'u lawrlwytho o wefan newydd Llwybrau i Lesiant: https://pathstowellbeing.ramblers.org.uk/ 

Mae'r prosiect hefyd wedi darparu llawer o fanteision i'r cymunedau y mae wedi gweithio ynddynt trwy gynnal 55 sesiwn hyfforddi ac ymgysylltu gyda dros 1,600 o wirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo dros 10,300 awr o'u hamser i helpu gyda gweithgareddau amrywiol. Mae'r rhain yn cynnwys gosod dros 200 o gatiau newydd, 138 o byst marcio newydd  a thros 1,800 o farcwyr llwybr pwrpasol, sydd wedi'u dylunio gan y gymuned, fel y gall pobl fwynhau a llywio eu teithiau cerdded yn hawdd.  

Yn ogystal â'r llwybrau, sydd eisoes wedi'u harchwilio dros 140,000 o weithiau, mae'r prosiect wedi gweithio ochr yn ochr â phartneriaid fel Coed Cadw ac Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru i wella natur trwy ymgymryd 33 diwrnod i clirio rhywogaethau ymledol, clirio dros 15,000 medr o lystyfiant, gosod dros 200 o flychau adar newydd a phlannu dros 3,850 o goed frodorol.  

Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr Llwybrau i Lesiant yng ngogledd Cymru: "Mae wedi dod ag aelodau o'r gymuned ynghyd i drafod a deall perchnogaeth o'r llwybrau troed hyn. Rwy'n credu ei fod wedi rhoi'r ymwybyddiaeth a'r ddealltwriaeth iddynt fod angen cerdded a chynnal y llwybrau troed hyn ac mae'n rhaid iddynt gymryd perchnogaeth ohono." 

Mae cymunedau yn y chwe rhanbarth ledled Cymru a wnaeth gais, ac a dderbyniwyd i gymryd rhan yn y prosiect yn cynnwys:  

  • Gogledd-ddwyrain Cymru - Cwm Clywedog/Parc Caia (Wrecsam), Pwllglas/Graig fechan (Sir Ddinbych), Llanfynydd (Sir y Fflint)  

  • Northwest Wales - Holy Island (Ynys Môn), Penmaenmawr (Conwy), Penrhyndeudraeth (Gwynedd)  

  • Canolbarth Cymru - Llechryd (Ceredigion), Penparcau (Ceredigion), Llanwrthwl a Rhaeadr Gwy (Powys)   

  • De-ddwyrain Cymru - Grosmont (Sir Fynwy), Maendy (Casnewydd), Six Bells (Abertyleri)   

  • De-orllewin Cymru - Brynberian (Sir Benfro), Llanybydder (Sir Gaerfyrddin), Ystalyfera (Abertawe)  

  • Canol De Cymru - Creigiau, Pentyrch a Gwaelod-y-Garth (Caerdydd), Treherbert (Rhondda Cynon Taf), Coety Higher (Pen-y-bont ar Ogwr) 

Dywedodd rheolwr prosiect Llwybrau i Lesiant Ramblers Cymru, Hannah Wilcox-Brooke: "Mae wedi bod yn brosiect hynod werth chweil i'w reoli. O'r cychwyn cyntaf roedd gennym gymaint o ddiddordeb gan gymunedau oedd eisiau bod yn rhan ond mae brwdfrydedd y gwirfoddolwyr a'r cymunedau dan sylw wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn yn lleol.  

"Rydyn ni'n gobeithio ein bod ni hefyd wedi chwarae tipyn bach o ran yn dod â'r cymunedau hyn at ei gilydd ar ôl y cyfnod clo a'u grymuso nhw i fod yn berchen ar eu llwybrau lleol go iawn." 

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.