Mae 72% o bobl yng Nghymru yn credu y dylid buddsoddi mwy o amser, arian ac adnoddau yn y rhwydwaith llwybrau.

Ymchwil newydd yn dangos cefnogaeth ar gyfer ein llwybrau

ENGLISH

Mae ymchwil Ramblers Cymru yn datgelu bod ein llwybrau'n cael eu gwerthfawrogi, ond mae angen mwy o fuddsoddiad, ac mae angen gwneud mwy i helpu pobl i gael gafael ar wybodaeth i fwynhau'r awyr agored. 

Mae'r arolwg barn cenedlaethol diweddar ar gyflwr y rhwydwaith llwybrau wedi datgelu mewnwelediadau diddorol i ganfyddiadau a dymuniadau'r cyhoedd ar gyfer llwybrau cerdded yng Nghymru.  

Comisiynodd y Ramblers arolwg barn ar-lein YouGov (rhwng 9-14 Mawrth 2023), gyda'r nod o fesur ymwybyddiaeth y cyhoedd o'u hawliau a'u cyfrifoldebau wrth ddefnyddio llwybrau, yn ogystal â'u hagweddau tuag at rwydweithiau'r llwybrau a'u gwelliannau posibl. 

 

Mae llwybrau yn cael eu gwerthfawrogi. 

Canfu'r arolwg fod 72% o bobl yng Nghymru yn  credu y dylid buddsoddi mwy o amser, arian ac adnoddau yn y rhwydwaith llwybrau, gydag 89% yn cytuno y dylai'r rhwydwaith gael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae'r ymchwil yn dangos yn glir bod y rhwydwaith llwybrau yn cael ei werthfawrogi gan y cyhoedd a arolygwyd, sy'n ystyried ei fod yn ased cenedlaethol sy'n bwysig iddynt. 

 

Manteision iechyd 

Mae gwerth llwybrau i'n lles hefyd yn adnabyddus, gydag adroddiad gan y Sefydliad Economeg Newydd wedi'i gomisiynu gan y Ramblers a gyhoeddwyd y mis hwn yn dangos bod defnyddio rhwydweithiau llwybrau Cymru a Lloegr yn ychwanegu cyfanswm o dros 3,000 o flynyddoedd iach o fywyd i'w poblogaethau. Mae hyn yn cyafteb i   amcangyfrifiad o werth lles o £2 biliwn.   

 

Rhwystrau i gerdded. 

Yn anffodus, er bod y llwybrau'n cael eu gwerthfawrogi ac yn bwysig i'n lles, mae'n ymddangos bod diffyg gwybodaeth yn atal cerddwyr rhag eu harchwilio, yn ogystal ag ansawdd y llwybrau gyda 30% o'r ymatebwyr yn nodi  bod llwybrau sydd wedi'u blocio neu eu cynnal a'u cadw'n wael, fel gatiau dan glo a llwybrau sydd wedi gordyfu, yn rhwystro eu defnydd, a bron i 7 o bob 10 ymatebydd (69%) yn credu bod angen gwella'r rhwydwaith llwybrau sydd ynnodi cyfleoedd i wella gwaith i cynnal a chadw a seilwaith. 

 

Gwybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau. 

Mae'r diffyg gwybodaeth am leoliadau llwybrau hefyd yn ymestyn i ddiffyg gwybodaeth am y canllawiau ynghylch hawliau a chyfrifoldebau gyda dim ond 22% yn gwybod sut i ddarganfod ble y caniateir iddynt gerdded. Dywed ychydig dros hanner (54%) yr ymatebwyr eu bod yn hyderus yn eu  gwybodaeth am eu hawliau a'u cyfrifoldebau wrth gerdded ar y rhwydwaith llwybrau, a dim ond 1 o bob 3 (33%) sy'n nodi eu bod yn wybodus am y Cod Cefn Gwlad - gan dynnu sylw at bwysigrwydd addysg ac ymwybyddiaeth yn y maes hwn.  

Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos heriau a chyfleoedd y rhwydwaith llwybrau presennol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd addysg, hygyrchedd ac ymdrechion cadwraeth.  

 

Yr hyn yr ydym am ei weld 

Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Ramblers Cymru: "Rydym am weld rhwydwaith llwybrau hygyrch o'r radd flaenaf, sy'n cael ei fwynhau gan gerddwyr cyfrifol gwybodus sy'n rhoi hwb i'n hiechyd, ein lles a'n heconomi wrth galon ein cymunedau. 

"Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu ei buddsoddiad yn ein rhwydwaith llwybrau, rydym yn galw am yr hyn sy'n cyfateb i 10% o'r gyllideb teithio llesol gyfredol a fyddai'n cynyddu gwariant ar y llwybrau hyn o tua 65c y pen o'r boblogaeth i tua £1.87, a allai wneud gwahaniaeth enfawr."  

Ochr yn ochr â'r buddsoddiad, hoffai Ramblers Cymru hefyd weld proses adrodd gyson ledled y wlad ar gyfer Hawliau Tramwy Cyhoeddus fel bod ansawdd y llwybrau hyn yn cael ei fonitro, fel y gallwn dargedu ardaloedd yr effeithir arnynt waethaf a gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, cymunedau a phartneriaid i'w gwella.  

Darganfyddwch fwy am ein haddewid: www.ramblers.org.uk/einllwybraueindyfodol