Allwch chi ein helpu i wella llwybrau Sir Gâr?

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i arolygu llwybrau ar draws y sir

ENGLISH

12 Chwefror 2024

Mae elusen gerdded fwyaf Cymru, Ramblers Cymru, wedi derbyn cyllid gan Gyngor Sir Gâr o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU fel rhan o'i agenda ffyniant bro. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu cymunedau yn Sir Gâr i wella eu llwybrau a mynediad iddynt.

Mae Ramblers Cymru yn galw ar gerddwyr Sir Gâr i gefnogi'r gwaith ac ymuno fel gwirfoddolwyr i gynnal arolygon o'r llwybrau.

Dywedodd Amy Goodwin, Swyddog Rhanbarthol Ramblers Cymru dros Sir Gâr: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ar y prosiect hwn gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i gynnal arolwg o’r rhwydwaith llwybrau ledled y sir i nodi eu cyflwr a chasglu gwybodaeth werthfawr i ddelio â phroblemau, gan wneud y llwybrau'n fwy hygyrch i ragor o bobl fwynhau manteision yr awyr agored."

Er mwyn ein helpu ni i wneud hyn, rydyn ni'n chwilio am gefnogaeth gwirfoddolwyr, felly os ydych chi'n angerddol am lwybrau ac yn gallu ein helpu i wneud rhywfaint o waith arolygu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych

Os hoffech gymryd rhan gyda Ramblers Cymru gallwch ymateb i'n holiadur llwybrau www.ramblers.org.uk/carmspaths neu gofrestru fel gwirfoddolwr: www.ramblers.org.uk/carmsvolregister.

Ychwanegodd Amy: "Mae ein llwybrau yn byrth sy'n cysylltu ein cymunedau ac yn ein helpu i fynd allan i'r amgylchedd naturiol, bydd y gwaith hwn yn helpu i roi cerdded wrth galon ein cymunedau."

Am ragor o wybodaeth am y rolau gwirfoddoli sydd ar gael, cysylltwch ag Amy.Goodwin@ramblers.org.uk.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: "Rwy'n falch fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gallu dyfarnu cyllid i Ramblers Cymru drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'n bwysig sicrhau bod pawb yn y gymdeithas yn gallu cyrchu llwybrau, felly rwy'n annog pobl leol i gymryd rhan yn y cyfleoedd gwirfoddoli y mae Ramblers Cymru wedi'u cynnig."