Bygythiad i lwybrau wedi’i ddiddymu’n swyddogol yng Nghymru

Dathliadau wrth i’r Senedd ddiddymu’r terfyn amser 2026 ar gyfer cofnodi hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru

ENGLISH

22 July 2025

Yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan y Ramblers, mae’r Bil Deddfwriaeth wedi cael cydsyniad brenhinol, gan ddileu’r bygythiad o derfyn amser ar gyfer cofnodi llwybrau yng Nghymru.

Mae mwy nag 8,000 milltir o lwybrau ledled Cymru nad ydynt wedi’u cofnodi, er bod llawer wedi bod yn cael eu defnyddio ers canrifoedd. Cafodd yr 8,000 milltir o lwybrau eu mapio gan wirfoddolwyr mewn dim ond 6 wythnos fel rhan o ymgyrch y Ramblers “Don’t Lose Your Way”.

Mae’r newid hwn i’r gyfraith yn rhoi amser i gymunedau i sicrhau bod llwybrau pwysig yn cael eu cofnodi. Pe bai terfyn amser wedi’i gyflwyno, ni fyddai wedi bod yn bosib i’r gwaith a’r casglu tystiolaeth sydd ei angen ddigwydd.

Mae’r newid hwn i’r gyfraith yn rhoi amser i gymunedau i sicrhau bod llwybrau pwysig yn cael eu cofnodi. Bydd y newid yn amddiffyn hawl pobl i gerdded y llwybrau hyn, a hefyd yn sicrhau bod gan awdurdodau ddyletswydd i gynnal y llwybrau, gan sicrhau bod gan bawb fynediad i’r awyr agored am genedlaethau i ddod.

 

Y sefyllfa bresennol yng Nghymru

Er bod y newyddion o’r Senedd yn achos dathlu, mae’n hanfodol bod y ffocws nawr ar wella cyflwr rhwydwaith llwybrau yng Nghymru, gan sicrhau bod hawliau mynediad yn dod yn realiti.

Er gwaethaf cynnydd sylweddol tuag at wella mynediad i’r awyr agored, mae cyflwr presennol hawliau tramwy cyhoeddus ledled Cymru yn dal i fod yn broblem.

Yn ôl adrodd diweddar gan y Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd (ERAMMP), mae 50% o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghymru wedi'u blocio a/neu heb eu harwyddo

 

Beth am y terfyn amser yn Lloegr?

Os ydych chi wedi bod yn dilyn cynnydd yr ymgyrch Don’t Lose Your Way, byddwch yn gwybod bod Llywodraeth y DU wedi addo diddymu’r terfyn amser sydd ar waith yn Lloegr ym mis Rhagfyr 2024. Er hynny, ar hyn o bryd, nid yw hyn wedi’i roi mewn deddfwriaeth. Mae hyn yn rhan allweddol o’n hymgyrch Outdoors Unlocked, sy’n anelu at chwalu rhwystrau fel y gall pawb fwynhau’r awyr agored.

A group of walkers in brightly coloured raincoats make their way up a wooded path

Access to nature inquiry launched by All-Party Parliamentary Group

Laws need to change to give people better access to nature closer to their homes, the chair of a new All-Party Parliamentary Group (APPG), Andy MacNae MP, has said.

"null"

Protecting the Welsh path network

Underfunding of the path network across Wales is leading to increasing reports that it is becoming less accessible when more people are exploring the outdoors.

Two walkers passing through a gate at a woodland near Glasgow

Charities hail new duties for landowners over access to land in Scotland

Change to Land Reform Bill doubles number of estates that must publish Land Management Plans