Seremoni Gwobrwyo Ramblers Cymru

Dathlu ymdrechion i roi cerdded wrth galon cymunedau

CYMRAEG

Ynglŷn â'r gwobrau

Ar 30 Mawrth 2023, dathlodd Gwobrau Ramblers Cymru ymdrechion aelodau a gwirfoddolwyr sydd yn rhoi cerdded wrth galon cymunedau Cymru. Fe gasglon ni yn Canada Lodge yn un o'n cymunedau Llwybrau i Lesiant, Pentyrch, i gydnabod yr aelodau a'r gwirfoddolwyr gwych sydd gennym yng Nghymru.

Categoriau Gwobrau

Calon y Gymuned

Y wobr hon oedd dathlu'r gymuned Llwybrau i Lesiant sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf, boed hynny drwy gynnal a chadw llwybrau, casglu sbwriel, cynnal/mynychu, neu ymgysylltu â'r digwyddiadau mwyaf cymunedol.

Treherbert Community and Welcome to our woods
Henillydd gwobr Galon y Gymuned, Cymuned Treherbert Community a Tim Welcome to Our Woods

Ein henillydd: Cymuned Treherbert a thîm Croeso i'r Coedwigoedd

Mae'r tîm buddugol a'u gwirfoddolwyr angerddol yn ymdrechu i wneud eu cwm nid yn unig yn lle bendigedig i fyw, ond yn gyrchfan i gerddwyr ymweld ag ef. Roedden nhw'n awyddus i fuddsoddi mewn pobl leol hyd yn oed cyn dod yn gymuned Llwybrau i Lesiant, a cynnal sesiynau therapi a sgiliau coetir. Ac mae'n saff dweud eu bod wedi mynd â'u brwdfrydedd i lefel newydd drwy'r prosiect. 

Gyda'i gilydd, mae'r gymuned hon wedi cynnal sawl taith dywys leol yn yr ardal fel rhan o'r prosiect. Maen nhw hefyd wedi dod ynghyd â Thân ac Achub De Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o'r prosiect Healthy Hillsides, i greu llwybrau sy'n atal tanau gwyllt.

Maen nhw hefyd wedi bod yn ymwneud â sesiynau rhywogaethau goresgynnol mewn partneriaeth â'u cyngor lleol a'u Hymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, i enwi dim ond ychydig o weithgareddau...

Mae'r digwyddiadau hyn yn gwneud adnoddau naturiol lleol yn fwy defnyddiol a pherthnasol i'w cymuned ac wedi ysbrydoli llawer o bobl eraill i gydweithio a chymryd rhan hefyd.

Ramble a Scramble

Aelod ifanc (o dan 25 oed) sy'n weithgar yn y gymuned, neu unigolyn neu grŵp sy'n mynd y tu hwnt i ennyn diddordeb cerddwyr ifanc.

Young volunteer Jamie Smith
Jamie Smith, enillydd gwobr Ramble a Scramble 

Ein henillydd: Jamie Smith

Enillydd gwobr Ramble a Scramble yn wirfoddolwr brwd wedi'i leoli yn Sir y Fflint. Mae'n beicio i bartïon gwaith gwirfoddol gyda'i offer ac yn hyrwyddo digwyddiadau Ramblers Cymru ar ei dudalennau cyfryngau cymdeithasol ei hun. Mae'n gweithio yn yr awyr agored fel garddwr llawrydd, gan ddarparu gwasanaethau tirlunio a chynnal a chadw yn ddim ond 18 oed. 

Mae ein swyddogion prosiect wedi ei wylio'n dod yn fwy hyderus wrth iddo droi ei law at osod meinciau, giatiau a pyst marcio ffordd, gan ddysgu sgiliau newydd wrth iddo wneud hynny a sgwrsio gyda gwirfoddolwyr eraill o bob cefndir ac oedran. 

Bellach mae nifer o'r grŵp yn ei logi i weithio yn eu gerddi eu hunain, wedi dod i'w adnabod ac ymddiried yn ei sgiliau a'i arbenigedd. Mae wedi bod yn bleser gwylio'r cysylltiadau hyn yn ffurfio a thyfu a thaflu goleuni ar pam y mae ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf yn hanfodol ar gyfer cymunedau Cymru. 

Ein Seren Ddisglair

Ysbrydoli, cymwynasgar, hapus i rannu sgiliau, a bob amser yn ysgogi eraill! Ydy hyn yn swnio fel aelod Ramblers Cymru neu'n gwirfoddoli y'ch chi'n ei adnabod? Rydyn ni eisiau clywed popeth amdanyn nhw.

Karen Harris, Our shining Star award winner with Ramblers Cymru Chair Rob Owen
Karen Harris, henillydd gwobr Ein Seren Disglair gyda Cadeirydd Ramblers Cymru, Rob Owen.

Ein henillydd: Karen Harris

Yn bencampwr dros wella mynediad i'r rhai ag anableddau, bu'r unigolyn hwn nid yn unig yn ysbrydoliaeth ond yn wirfoddolwr hynod ymroddedig o gychwyn un y prosiect Llwybrau i Lesiant. Mae ganddyn nhw wên i'w rhannu bob amser ac maen nhw'n frwdfrydig dros ben gydag angerdd am fyd natur. 

Maent bob amser yn hapus i rannu eu gwybodaeth a'u profiadau personol, maent wedi rhoi cipolwg amhrisiadwy i dîm Ramblers Cymru ar yr heriau sy'n wynebu wrth gael mynediad i fannau gwyrdd i'r rheini ag anableddau a symudedd cyfyngedig. 

Gyda'n gilydd, rydym wedi cynllunio, cynnal arolwg a chreu'r disgrifiadau llwybr ar gyfer ein Llwybrau Hygyrch (a Chyfeillgar i deuluoedd) i lwybrau llesiant yn Ystalyfera ac Ystradgynlais. Mae hi'n gaffaeliad arbennig i Ramblers Cymru, sy'n bleser bod o gwmpas, ac yn eiriolwr pwerus dros awyr agored hygyrch.

Help llaw

A oes unigolyn, busnes neu sefydliad cefnogol yn eich cymuned sy'n rhoi eu hamser, arian, neu lle i'ch grŵp Ramblers Cymru yn gyson? Meddyliwch caffis, neuaddau cymunedol, busnesau lleol, neu glybiau sy'n cefnogi eich gwaith, a rhowch enwebiad iddyn nhw!

Winners of the Helping Hand award, Gwion and Sara Evans of Llanbenwch Caravan Site with Ramblers Cymru Vice President, kate Ashbrook.Gwin
Enillwyr gwobr Help Llaw, Gwion a Sara Evans o Maes Carafannau Llanbenwch gyda Is-Lywydd Ramblers Cymru, Kate Ashbrook.

Ein enillydd: Sara a Gwion Evans – Safle Carafannau Llanbenwch (Dyffryn Clwyd)

Cysylltodd yr enillydd â Ramblers Cymru wrth iddynt gweld eu busnes yn troi'n hwb cymunedol ond roedden nhw'n wynebu problemau hygyrchedd oherwydd ei agosrwydd at brif ffordd gyflym heb fynediad hawdd at y llwybrau troed lleol. Roedden nhw wedi gosod arwyddion rhybudd, ond yn y pen draw roedden nhw eisiau ateb mwy diogel a hirdymor. Sefydlwyd cyfarfod a chytunwyd y gellid ariannu llwybr troed caniataol i greu mynediad diogel ar y safle ac oddi arno, gan gysylltu â'r Hawliau Tramwy cyfagos.

Mae creu'r llwybr hwn, yn ogystal â phenderfyniad, ymroddiad, a phositifrwydd yr enillydd, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ac wedi arwain at lawer o ddatblygiadau eraill yn yr ardal. Maen nhw wedi bod yn awyddus i helpu mewn unrhyw ffordd gyda'r prosiect Llwybrau i Lesiant.

Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys cynnal noson bioblitz gyda'r Brownies leol, a diwrnod gweithgareddau i’r ysgol gynradd leol, a darparu safle ar gyfer digwyddiad cerdded grŵp Mind Dyffryn Clwyd . Maent wedi bod yn ymwneud yn helaeth â'r ymdrechion plannu coed, gan fynd yn sownd i'r gwaith corfforol a darparu lluniaeth i'r gwirfoddolwyr eraill. 

Mae eu positifrwydd hyd yn oed wedi arwain at dirfeddianwyr lleol, sy'n gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr oherwydd y safle, yn cysylltu gyda Ramblers Cymru i gofyn am help i wneud gwelliannau i'r llwybrau troed ar eu tir. 

Glöyn byw cymdeithasol

Mae llun (neu fideo) werth mil o eiriau!

Bydd y wobr Glöyn Byw Cymdeithasol yn mynd i'r grŵp neu'r unigolyn sy'n defnyddio eu platfform cyfryngau cymdeithasol i hysbysu, diddanu, ysgogi ac ymgyrchu gyda chynnwys yn gysylltiedig â Ramblers Cymru, yn ogystal â recriwtio aelodau newydd.

Tiger Bay Ramblers, winners of the Social Butterfly award
Tiger Bay Ramblers, enillwyr wobr Glöyn Byw Cymdeithasol

Ein Enillydd: Grŵp Ramblers Tiger Bay

Mae enillwyr y categori hwn yn defnyddio eu platfformau Facebook, Twitter, ac Instagram yn effeithiol er mwyn cofnodi eu teithiau cerdded a gweithgareddau cymdeithasol, yn ogystal â rhoi hwb i cynnwys ac ymgyrchoedd Ramblers Cymru.

Maen nhw hefyd wedi ehangu eu cynulleidfa drwy ddefnyddio llwyfan cyfryngau cymdeithasol newydd yn effeithiol, MeetUp, gan ddefnyddio teithiau cerdded blasu byr a graffegau atyniadol. 

Yr Esgid Aur

Ry'n ni'n gwybod bod ein gwirfoddolwyr i gyd yn arwyr cymunedol, ond rydyn ni eisiau clywed am y rhai gorau yn eich cymuned Ramblers lleol.

Ydych chi'n adnabod aelod hynod ymroddedig neu'n wirfoddolwr annibynnol? Pwerdy a aeth i'r afael â her gyfreithiol neu stori y dylem ei dathlu? Mae'r beirniaid eisiau clywed eu straeon!

Kay and James Davies, winners of the Golden Boot award with Ramblers GB Director of Operations & Advocacy, Tom Platt.
Kay and James Davies, enillwyr gwobr yr Esgid Aur gyda Cyfarwyddwr Gweithrediadau ac Eiriolaeth Ramblers GB , Tom Platt.

Ein Enillwyr: Kay a James Davies (Ramblers Llambed a Dyffryn Teifi)

Yn ogystal â bod yn wirfoddolwyr ers tro ac aelodau o grŵp Ramblers Llambed a Dyffryn Teifi, lle maent yn darparu teithiau cerdded ac yn helpu i wella a chynnal llwybrau, mae'r ddau wedi ymgymryd â'r dasg o fod yn brif wirfoddolwyr ar gyfer y prosiect Llwybrau i Lesiant yn Llanybydder. 

O fewn eu rolau, maent yn mynd uwchlaw a thu hwnt yn gyson i gydlynu gweithgareddau gwirfoddol yn yr ardal, cysylltu â thirfeddianwyr lleol a mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod gweithgareddau yn cael ei gwneud yn dda.

Yn ddiweddar, aethant ati i gyflawni tasg enfawr o glirio llawer iawn o falurion tipio anghyfreithlon o nant, a oedd wedi achosi i'r llwybr troed cyfagos orlifo. Roedd clirio swm bach yn lleddfu'r llifogydd, ond doedden nhw ddim am gorffen nes i'r holl sbwriel gael ei dynnu oddi yno, a'i ddychwelyd ar achlysur arall gyda esgidiau glaw ac offer i sicrhau bod y man harddwch naturiol wedi'i adfer yn llwyr.