Camu Ymlaen: Merched yn Cerdded yng Ngogledd Cymru
Grwpiau cerdded cyfeillgar ar gyfer merched 18-25 oed yn y Rhyl, Wrecsam a Chaergybi

28 July 2025
Mae Ramblers Cymru yn gweithio efo merched ifanc i ddatblygu grwpiau cerdded am ddim yn y Rhyl, Wrecsam a Chaergybi.
Mae’n grwpiau yn ffordd dda o gwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a darganfod lleoedd newydd i gerdded yn yr ardal leol.
Mae teithiau cerdded hyd yn hyn yn cynnwys Erddig, Rhaeadr Dyserth a Llwybr Arfordir Cymru.
Rydyn ni hefyd yn rhedeg gweithdai sy’n dysgu sut i ddarllen mapiau, llywio, a sut i gadw yn saff wrth gerdded.
Felly os dych chi wastad wedi bod eisiau archwilio’r awyr agored ond heb wybod lle i ddechrau – rydyn ni yma i helpu.
Dwedodd Olivia Evans, sy’n arwain y prosiect: “Bydden ni wrth ein bodd pe byddech chi’n ymuno â ni wrth i ni fynd mas i'r awyr agored a chwrdd â ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae croeso i bob lefel o ffitrwydd a phrofiad, wrth i ni greu amgylchedd cefnogol a grymusol gyda’n gilydd, ble mae menywod ifanc yn teimlo’n hyderus i fynd allan i'r awyr agored a chadw’n actif."
Sut i gymryd rhan
Os ydych chi rhwng 18-25 oed ac yn byw yn y Rhyl, Wrecsam neu Gaergybi, gallwch ddarganfod mwy a chymryd rhan drwy gysylltu ag olivia.evans@ramblers.org.uk. Does dim angen profiad – peidiwch â phoeni am eich cyflymder neu’ch ffitrwydd.
Mae Merched yn Cerdded yn bartneriaeth â Gogledd Cymru Actif.

Llwybrau a Chymunedau
Mae Ramblers Cymru yn cael eisiau rhoi cerdded wrth galon cymunedau ledled Cymru, gan eu gwneud yn lleoedd gwyrddach, iachach a mwy pleserus i ymweld â nhw, byw ynddynt, gweithio ac archwilio.

Llwybrau at Ffyniant
Cyngor Sir Powys a Ramblers Cymru yn cydweithio ar brosiect datblygu teithiau cerdded cymunedol.