Llwybrau at Ffyniant

Prosiect newydd wedi ei lansio i rhoi hwb i lwybrau Powys

ENGLISH

05 February 2024

Prosiect newydd ar y cyd

Mae Cyngor Sir Powys a Ramblers Cymru wrth eu boddau wrth gyflwyno “Llwybrau at Ffyniant”, sef ymdrech ar y cyd i hybu ymglymiad y gymuned at fynediad, creu cyfleoedd economaidd, a gwella profiad ymwelwyr wrth ddatblygu llwybrau cerdded yn y Trallwng, Llangors a Choelbren.

Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Ramblers Cymru: “Rydyn ni wrth ein boddau wrth weithio â Chyngor Sir Powys i wella llwybrau a mynediad. Byddwn ni’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned i chi ‘alw heibio’ iddynt yn ystod mis Chwefror. Bydd hyn yn galluogi pobl leol i rannu eu hoff dro cerdded a gwybodaeth am lefydd a allai elwa o gael gwella’u llwybrau cerdded.

“Felly, os ydych chi’n angerddol dros ddatblygu llwybrau cerdded, arwain teithiau cerdded, neu am ddysgu sgiliau newydd i gefnogi digwyddiadau cerdded, galwch heibio am baned i roi gwybod i ni.”

 

Galwch heibio digwyddiadau ymgynghori yn y canolfannau canlynol:

  • Llangors – Canolfan Gymunedol Llangors – Sadwrn 10 Chwefror, 10am – 3pm.
  • Y Trallwng – Pencadlys Sgowtiaid 1af Clive a Chanolfan Gymunedol Y Trallwng – Sul 11 Chwefror, 10am- 3pm.
  • Coelbren – Neuadd Les a Choffa Coelbren, Sadwrn / Sul 17 or 18 Chwefror, 10am – 3pm.

Os na allwch fod yn bresennol ond yr hoffech gymryd rhan, cwblhewch ein holiadur am lwybrau cymunedol  https://www.ramblers.org.uk/powyssurvey neu e-bostio RamblersCymru@ramblers.org.uk

Wrth adeiladu ar lwyddiant gwaith blaenorol, bydd y prosiect hwn yn helpu gwirfoddolwyr lleol i ddatblygu sgiliau ymarferol darllen map, datblygu llwybrau cerdded, cynnal a chadw llwybrau cerdded, yn ogystal â gwella arwyddion ac isadeiledd i sicrhau mynediad hawdd i bawb.

Caiff cyfres newydd o ganllawiau llwybrau cerdded ar gyfer llwybrau cerdded newydd a gwell eu creu a byddant ar gael ar-lein i gymunedau lleol eu mwynhau.

 

Mae gan Powys llawer i'w gynnig

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: “Mae Powys wedi ei bendithio gan rai o’r mannau awyr agored mwyaf trawiadol i breswylwyr a thwristiaid eu mwynhau ac mae prosiect Llwybrau at Ffyniant yn ffordd wych o gael pawb allan i wneud y mwyaf o’r hyn sydd gan Bowys i’w gynnig.

“Wrth ddatblygu rhwydwaith o wirfoddolwyr i gynyddu perchnogaeth leol o rwydweithiau llwybrau, hybu balchder cymunedol a chynnal a chadw llwybrau cerdded, bydd y prosiect yn helpu i wella profiad y miloedd o bobl sy’n caru treulio amser yn yr awyr agored yn fforio llwybrau cerdded Powys.

“Bydd pawb sy’n angerddol dros yr awyr agored a cherdded yn awyddus i fod yn rhan o lunio dyfodol ffyniannus drwy ymgysylltu cymunedol, llwybrau cerdded hyfyw, a thwristiaeth gynaliadwy!”

Caiff y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a chefnogaeth Cyngor Sir Powys.

People taking a walk in the countryside

72% of people in Wales think more time, money and resources should be invested in the path network

Ramblers Cymru research reveals that our paths are valued, but more investment is needed, and more needs to be done to help people access information to enjoy the outdoors.

Llwybrau a Chymunedau

Llwybrau a Chymunedau

Mae Ramblers Cymru yn cael eisiau rhoi cerdded wrth galon cymunedau ledled Cymru, gan eu gwneud yn lleoedd gwyrddach, iachach a mwy pleserus i ymweld â nhw, byw ynddynt, gweithio ac archwilio.

Partneriaeth Llwybrau Sir Gâr

Partneriaeth Llwybrau Sir Gâr

Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i gynnal arolwg o’r rhwydwaith llwybrau yn yr ardal er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gyflwr y llwybrau a chasglu gwybodaeth werthfawr, gyfoes a fydd yn helpu i ddatrys problemau i gynnal ac agor mynediad Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar draws cymunedau.