Llwyddiannau yng Nghymru ar gyfer mynediad i lwybrau
Mae Haf 2025 wedi gweld cynnydd rhagorol i gerddwyr yng Nghymru.

Ym mis Gorffennaf gwnaeth y Bil Deddfwriaeth yn y Senedd ddileu’r bygythiad o derfyn amser ar gyfer cofnodi llwybrau yng Nghymru, rhywbeth y mae Ramblers Cymru wedi dadlau drosto ers blynyddoedd lawer. Mae’r newid hwn i’r gyfraith yn rhoi amser i gymunedau i sicrhau bod llwybrau pwysig yn cael eu cofnodi.
Ro’n ni hefyd wrth ein bodd o glywed bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFC) yn cynnwys gofyniad i dirfeddianwyr gyflawni eu cyfrifoldebau mynediad drwy gynnal hawliau tramwy cyhoeddus ar eu tir. Dyma’r tro cyntaf yng Nghymru y bydd canlyniadau ariannol posibl i ffermwyr os ydy eu llwybrau wedi’u rhwystro neu’n anniogel.
Rydym yn cael ein hannog i weld cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad ychwanegol i wella mynediad i’r rhwydwaith llwybrau, er enghraifft disodli camfeydd â gatiau.
Mae cynnwys mynediad cyhoeddus o fewn y CFC yn elfen hanfodol i gyflawni’r isadeiledd cerdded y mae Cymru yn ei haeddu.
Bydd gwella mynediad at lwybrau Cymru yn dod â llawer o fanteision: gan gynnwys gwella iechyd meddwl a chorfforol, helpu i greu cymunedau cysylltiedig, a denu gwariant twristiaeth.
Rydym yn falch o weld llywodraeth Cymru yn rhoi neges glir bod angen amddiffyn y rhwydwaith llwybrau, a bod angen cyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol, fel amod ar gyfer cyllid cyhoeddus i dirfeddianwyr.
Mae’r cyllid CFC yma’n ychwanegol at y Grant Gwella Mynediad presennol (GGM) – sydd yn £2 filiwn ar hyn o bryd – i wella mynediad i gefn gwlad, gofod gwyrdd a thir mynediad agored.
Mae angen cynnydd pellach
Er gwaethaf y cynnydd sylweddol tuag at ehangu mynediad i’r awyr agored, mae cyflwr hawliau tramwy cyhoeddus ledled y wlad yn dal i fod yn broblem. Mae rôl tirfeddianwyr wrth gadw llwybrau yn ddefnyddiadwy yn rhwymedigaeth gyfreithiol hirhoedlog sydd wedi’i hesgeuluso’n rhy aml.
Yn ôl adroddiad ERRAMP diweddar, mae 50% o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghymru wedi’u blocio a/neu heb eu harwyddo. Mae’n hanfodol bod cyflwr y rhwydwaith llwybrau yn cael ei wella, gan ganiatáu i hawliau mynediad ddod yn realiti.
Beth sydd angen ei wneud
Rydym yn annog llywodraeth Cymru i ddatblygu ar gamau cadarnhaol diweddar drwy ymwymo i roi mwy o arian i’r GGM, a thrwy amlinellu cynllun i gynyddu cyfleoedd cerdded a lleihau rhwystrau ar ein llwybrau.
Gydag etholiadau’r Senedd yng Nghymru yn agosáu'n gyflym, rydym yn gofyn i bob plaid ymwymo i wella mynediad pawb i’r byd naturiol drwy:
- Adnewyddu ein rhwydwaith llwybrau annwyl.
- Creu mynediad haws i natur.
- Cefnogi cyfleoedd newydd sy’n helpu pobl i fynd allan a cherdded.
Mae Ramblers Cymru yn awyddus i weithio gyda thirfeddianwyr a’r llywodraeth i rannu profiad a sgiliau ein haelodau a helpu i wneud y gorau o gyfleoedd yn y dyfodol i ailfywhau mynediad cyhoeddus at natur.
Llwyddiannau prosiectau Ramblers Cymru
Mae prosiectau Ramblers Cymru wedi dangos manteision cydweithio i agor y ffordd i bawb fwynhau llawenydd syml cerdded mewn natur.
Rhoddodd prosiect Llwybrau i Lesiant gerdded wrth galon 18 cymuned ledled Cymru drwy roi'r offer a'r hyfforddiant iddynt i wella natur a mynediad at gerdded yn eu hardaloedd lleol. Yn ogystal â chreu 145 o lwybrau troed newydd, gosodwyd 280 o gatiau hefyd.
Ym Mhowys gwnaeth y prosiect Llwybrau at Ffyniant hybu mynediad yn y sir mewn cydweithiad â Chyngor Sir Powys, gan gynnwys gosod 30 o giât.
Ar hyn o bryd, mae prosiect Partneriaeth Llwybrau yn Sir Gâr yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a’r Cyngor i arolygu rhwydwaith y llwybrau, cofnodi a datrys problemau.

Bygythiad i lwybrau wedi’i ddiddymu’n swyddogol yng Nghymru
Yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan y Ramblers, mae’r Bil Deddfwriaeth wedi cael cydsyniad brenhinol, gan ddileu’r bygythiad o derfyn amser ar gyfer cofnodi llwybrau yng Nghymru.

Camu Ymlaen: Merched yn Cerdded yng Ngogledd Cymru
Rydyn ni’n gweithio efo merched ifanc yng ngogledd Cymru i greu grwpiau cerdded hwyliog a chyfeillgar sy’n eich ysbrydoli i fynd allan ac archwilio’ch ardal leol.

Allwch chi ein helpu i wella llwybrau Sir Gâr?
Dewch i helpu Ramblers Cymru a Chyngor Sir Gâr i arolygu llwybrau a chasglu gwybodaeth bwysig am eu cyflwr presennol.