Rydym yn helpu merched ifanc i ddysgu sgiliau a gwella eu hyder yn yr awyr agored
Mae ein prosiect Merched yn Cerdded yng ngogledd Cymru yn helpu merched ifanc i fwynhau’r awyr agored.

Mae’r prosiect yn gweithio gyda merched ifanc yn y Rhyl, Wrecsam a Chaergybi i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder yn yr awyr agored.
Ymunodd cyfranogwyr y prosiect, Lacey a Georgia, â chyfranogwyr ym mhrosiect allgymorth cymunedol Ramblers Scotland ar daith i’r Cairngorms.
Mae Lacey ar y sbectrwm awtistiaeth ac mae’n cael trafferth gyda’i hiechyd meddwl. “Mae wedi agor fy meddwl i lot o bethau ac wedi gwthio fy ffiniau,” meddai. “Mae hynny’n rhywbeth mawr i mi – mae wedi bod yn brofiad anhygoel. Gobeithio y bydda i’n gallu dod yn ôl oherwydd ei fod yn lle hardd iawn.”
Helpu merched ifanc i gael mynediad i’r awyr agored
Liv, ein Swyddog Rhanbarthol yng ngogledd Cymru, sy’n arwain y prosiect. “Mae’r ystod oedran 18-25 wedi’i nodi fel un anodd i ymgysylltu â hi,” meddai. “Ar ôl ysgol mae pawb yn cael eu taflu allan i’r byd go iawn. Gall pobl fynd ar goll, felly mae’n creu ymdeimlad o gymuned i’r merched. Maen nhw’n gwneud ffrindiau, cysylltiadau, ac wrth gwrs maen nhw’n cerdded – mae’n dda i iechyd meddwl a chorfforol.”
Mae gogledd Cymru’n ymfalchïo mewn golygfeydd godidog ac mae’n denu cerddwyr o bob cwr o Brydain a thu hwnt. Ond gall diffyg sgiliau a hyder atal pobl rhag mwynhau’r dirwedd hardd ar ei stepen drws. Mae prosiect Merched yn Cerdded wedi bod yn helpu merched ifanc i ddatblygu eu hyder, ffitrwydd a sgiliau awyr agored.
Yn ogystal â’r daith i’r Alban, mae cyfranogwyr hefyd wedi mynd i’r afael â heriau yn nes at adref. Rhoddodd taith gerdded undydd i Foel Lus gyfle i’r merched wthio eu hunain yn gorfforol a hefyd i archwilio eu hardal leol.
Mae Tammy, a ymunodd â’r grŵp drwy brosiect Barod Sir Ddinbych, yn dweud “doeddwn i ddim yn arfer hoffi cerdded, oherwydd roeddwn i’n dioddef gyda fy nghoesau oherwydd fy mhwysau. Dw i’n cael help gyda hynny ond dw i’n hoffi cerdded pellteroedd hir a gwthio fy hun er mwyn i mi, gobeithio, allu gwneud mwy o bethau drwy gerdded… Dw i wedi cwrdd â phobl hyfryd. Dw i wedi mwynhau pob munud ohono.”
“Dw i wedi cwrdd â phobl hyfryd. Dw i wedi mwynhau pob munud ohono.”
Tammy, cyfranogwr Merched yn Cerddded
Ymunodd Ela â’r grŵp ar ôl symud i Wrecsam i weithio. Mae hi’n dweud “doeddwn i ddim yn nabod neb yno, felly roeddwn i’n teimlo’n eithaf unig ar y dechrau. Ac yna gwelais i hysbyseb am y grŵp cerdded yma a meddyliais i byddwn i’n rhoi cynnig arni. Mae’r awyrgylch wedi bod yn dda iawn, naws gyfeillgar iawn. Dw i wedi sylwi, ers Covid, ac ers i gostau byw fynd drwy’r to, ei bod hi’n llawer anoddach i bobl ifanc gyfarfod a chymdeithasu. Felly mae pethau fel hyn yn berffaith oherwydd eu bod nhw am ddim.”

Beth sydd ymlaen yn 2026
Os ydych chi rhwng 18-25 oed ac yn byw yn y Rhyl, Wrecsam neu Gaergybi, gallwch ddarganfod mwy a chymryd rhan drwy gysylltu ag olivia.evans@ramblers.org.uk. Does dim angen profiad – peidiwch â phoeni am eich cyflymder neu’ch ffitrwydd.
Darganfod mwy

Ramblers Cymru urges public to back new Glyndwr National Park as deadline looms
Walking charity says first new Welsh national park in 60 years is vital for access to nature

Mynediad wedi’i Wadu: ein gweledigaeth ar gyfer llwybrau hygyrch ledled Cymru
Gyda hanner hawliau tramwy Cymru wedi’u rhwystro neu heb eu cynnal, mae mynediad at natur yn cael ei gyfyngu’n annheg. Mae Ramblers Cymru yn galw ar y llywodraeth nesaf i gynyddu cyllid cynnal a chadw llwybrau, dileu rhwystrau fel camfeydd, ac i fabwysiadu strategaeth groes-sector sy’n rhoi cerdded wrth wraidd iechyd, hinsawdd a lles cymunedol. Byddai Grant Gwella Mynediad pedair blynedd gwerth £24 miliwn yn sicrhau gwelliannau parhaol ar gyfer llwybrau a mannau gwyrdd Cymru.

Bygythiad i lwybrau wedi’i ddiddymu’n swyddogol yng Nghymru
Yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan y Ramblers, mae’r Bil Deddfwriaeth wedi cael cydsyniad brenhinol, gan ddileu’r bygythiad o derfyn amser ar gyfer cofnodi llwybrau yng Nghymru.