Mae gwirfoddolwyr yn dathlu carreg filltir 750 cilomedr
Mae prosiect llwybrau yn Sir Gâr wedi cyrraedd carreg filltir anhygoel

Mae gwirfoddolwyr wedi arolygu 750 cilomedr o lwybrau yn Sir Gâr fel rhan o brosiect rhwng Ramblers Cymru a Chyngor Sir Gâr.
Gyda mwy na 2,500 cilomedr o hawliau tramwy cyhoeddus yn y sir, mae Partneriaeth Llwybrau Sir Gâr yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i arolygu llwybrau a darparu gwybodaeth gyfoes am rwydwaith y llwybrau, adrodd am broblemau a gwneud tasgau cynnal a chadw bach.
Ar ôl 18 mis, mae 79 o wirfoddolwyr wedi arolygu 750 cilomedr o hawliau tramwy cyhoeddus. Mae’r gamp enfawr yn cyfateb i gerdded hanner llwybr arfordir Cymru. Bydd y wybodaeth amhrisiadwy yn cefnogi ceisiadau am gyllid i ddatrys problemau ac i gynnal prosiectau gwella llwybrau.
Bellach mae 8 cilomedr o lwybrau wedi’u gwella o amgylch Carmel, yn ogystal â datrys mwy na 50 o broblemau ledled y sir. Mae Cyngor Sir Gâr wedi derbyn £28,060 o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin er mwyn ymgymryd â gwelliannau ar lwybrau a arolygwyd gan wirfoddolwyr. Bydd dros 100 o broblemau’n cael eu datrys a bydd o leiaf 10 cilomedr o lwybrau’n cael eu gwella.
Dwedodd gwirfoddolwr Chris: “Fel rhywun sy’n mwynhau cerdded yng nghefn gwlad, dwi’n teimlo ei bod hi’n bwysig gallu mynediad at gymaint o’n llwybrau cyhoeddus â phosibl. Rhoddodd gwirfoddoli i’r prosiect Partneriaeth Llwybrau gyfle i fi gyfrannu at y nod yma. Mae cymryd rhan wedi bod yn brofiad pleserus ac mae gweld rhai o’r gwelliannau a wnaed, gan gynnwys rhai o’r llwybrau dwi wedi’u harolygu, wedi bod yn foddhaol iawn.”
Yn barod i wirfoddoli?
Mae’r prosiect yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i’w helpu i gyrraedd eu targed 1,000 cilomedr erbyn mis Mawrth 2026. Gall pobl sydd â diddordeb mewn ymuno â’r tîm gwirfoddolwyr, a derbyn hyfforddiant llawn ar sut i arolygu eu llwybrau lleol, gysylltu ag amy.goodwin@ramblers.org.uk neu darganfod mwy yma.
Cydariannwyd prosiect Partneriaethau Llwybrau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chyngor Sir Gâr drwy Gronfa Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru.

Llwyddiannau yng Nghymru ar gyfer mynediad i lwybrau
Dileodd y Bil Deddfwriaeth bygythiad o derfyn amser ar gyfer cofnodi llwybrau, ac mae’r CFC yn cynnwys gofyniad i dirfeddianwyr gynnal hawliau tramwy cyhoeddus.

Bygythiad i lwybrau wedi’i ddiddymu’n swyddogol yng Nghymru
Yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan y Ramblers, mae’r Bil Deddfwriaeth wedi cael cydsyniad brenhinol, gan ddileu’r bygythiad o derfyn amser ar gyfer cofnodi llwybrau yng Nghymru.

Camu Ymlaen: Merched yn Cerdded yng Ngogledd Cymru
Rydyn ni’n gweithio efo merched ifanc yng ngogledd Cymru i greu grwpiau cerdded hwyliog a chyfeillgar sy’n eich ysbrydoli i fynd allan ac archwilio’ch ardal leol.