Llwybrau a Chymunedau

Cyflwyno prosiectau mynediad bro ledled Cymru

ENGLISH

Llwybrau a Phartneriaethau

Mae Ramblers Cymru yn cael ei yrru i roi cerdded wrth galon cymunedau ledled Cymru, gan eu gwneud yn lleoedd gwyrddach, iachach a mwy pleserus i ymweld â nhw, byw ynddynt, gweithio ac archwilio.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cydnabod yr angen i weithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau, o awdurdodau lleol ac asiantaethau'r llywodraeth i bartneriaid trydydd sector a grwpiau cymunedol.

 

Dan arweiniad y gymuned, i'r gymuned

Mae Ramblers Cymru yn credu, drwy weithio ochr yn ochr â chymunedau i ymgysylltu â'u rhwydwaith llwybrau lleol a'u mannau gwyrdd, gyda'n gilydd, y gallwn greu cyfleoedd cerdded cynaliadwy i bawb. Yn y pen draw, bydd hyn yn cysylltu pobl â manteision iechyd a lles natur a cherdded.

 

Llwybrau i Lesiant

Mae'r prosiectau presennol wedi ei adeiladu ar ein arbenigedd o prosiectau cymunedol yr ydym eisioes wedi ei wneud. Rhwng 2021-23 roedd Ramblers Cymru yn rhedeg y prosiect Llwybrau i Lesiant, gan weithio gyda 18 cymuned ledled Cymru i wella llwybrau a natur a darparu'r offer a'r hyfforddiant i gymunedau gynnal a gwella mynediad lleol.

Dysgwch fwy am ein gwaith ac archwilio un o'r 145 llwybr cerdded newydd https://pathstowellbeing.ramblers.org.uk/

 

Darganfyddwch fwy

Yn dilyn ymlaen o'r prosiect Llwybrau i Lesiant, mae Ramblers Cymru wedi llwyddo i ddatblygu gwaith prosiect ychwanegol gydag awdurdodau lleol yn Sir Gar, Sir Ddinbych, Sir Fynwy a Phowys gyda'r nod o wella llwybrau a mynediad lleol.

  • Sir Gar – Partneriaeth Llwybrau - Arolygu llwybrau gyda gwirfoddolwyr ar hyd y sir
  • Sir Ddinbych – Allgymorth Cymunedol - Datblygu a hyrwyddo llwybrau cymunedol
  • Sir Fynwy – Llwybrau i Gymunedau - Creu datrysiad cynnal a chadw llwybrau cynaliadwy
  • Powys – Llwybrau at Ffyniant - Rhoi hwb i gymunedau a thwristiaeth drwy gerdded

Os hoffech weithio mewn partneriaeth â Ramblers Cymru, cysylltwch â ni: RamblersCymru@ramblers.org.uk

Llwybrau at Ffyniant

Llwybrau at Ffyniant

Cyngor Sir Powys a Ramblers Cymru yn cydweithio ar brosiect datblygu teithiau cerdded cymunedol.

Partneriaeth Llwybrau Sir Gâr

Partneriaeth Llwybrau Sir Gâr

Rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i gynnal arolwg o’r rhwydwaith llwybrau yn yr ardal er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gyflwr y llwybrau a chasglu gwybodaeth werthfawr, gyfoes a fydd yn helpu i ddatrys problemau i gynnal ac agor mynediad Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar draws cymunedau.

3 walkers with backpacks putting up a waymark with a hammer

Partnership project to improve sustainability of the public rights of way network

Ramblers Cymru will be delivering the Paths to Communities project for Monmouthshire County Council developing ways to make the public rights of way network more sustainable in the long term.